Carwyn Jones yn ysgrifennu at David Cameron

Pleidleisio Image copyright bbc
Image caption Enillodd Llafur 30 o'r 60 sedd yn etholiad cynulliad mis Mai

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth San Steffan yn gofyn am sicrwydd na fydd system bleidleisio'r Cynulliad yn cael ei newid heb gytundeb pobl Cymru.

Daeth cadarnhad fod Carwyn Jones wedi ysgrifennu'r llythyr at y Prif Weinidog David Cameron yr wythnos ddiwetha'.

Deellir fod Mr Cameron wedi cytuno ar lafar y dylai Cymru gadw'r drefn o gael 60 Aelod Cynulliad er bod 'na ddyfalu y gallai'r system bleidleisio newid o'i ffurf bresennol.

Does 'na ddim ymateb ffurfiol gan Mr Cameron hyd yma.

Yn y cyfamser, mae adroddiad gan y Gymdeithas Diwygiad Etholiadol (ERS) yn honni y byddai Llafur yn ennill nifer "anghyfartal" yn fwy o seddi petai pob aelod yn cael ei ethol trwy system 'cyntaf i'r felin', sef yr un broses a ddefnyddir i ethol Aelodau Seneddol.

Mae'r gymdeithas yn dweud y byddai cael gwared ar yr elfen o gynrychiolaeth gyfrannol - yr ail bleidlais, sy'n ethol aelodau ar gyfer y rhanbarth etholaethol - yn "gwadu llais i filoedd o bleidleiswyr".

Ffiniau newydd

Ond mae'r Blaid Lafur yn mynnu eu bod yn erbyn newid y system etholiadol ac maen nhw wedi cyhuddo'r ERS o "gamddehongli" eu safbwynt.

Ar hyn o bryd mae 40 o ACau yn cael eu hethol trwy'r system 'cyntaf i'r felin', gydag 20 yn cael eu hethol o restrau rhanbarthol.

Mae Llafur wedi edrych ar newidiadau posib yn sgil cynlluniau Llywodraeth San Steffan i ostwng nifer yr ASau o 40 i 30 yng Nghymru.

Mae'r blaid yn gwrthwynebu gostwng nifer yr etholaethau cynulliad i gyd-fynd â ffiniau'r seddi seneddol newydd.

Ond os bydd newidiadau'n cael eu gorfodi, byddai'r blaid yn cefnogi cwtogi i 30 o etholaethau gyda dau aelod, a phob AC yn cael ei ethol trwy system 'cyntaf i'r felin'.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, bydd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan yn "edrych o ddifri" ar y mater.

"Bydd yn rhaid i ni ymateb i'r ffaith bod nifer yr ASau yn cael eu cwtogi, ond gallai'r ymateb hwnnw olygu gwneud dim," meddai'r llefarydd.

Mae adroddiad ar gyfer yr ERS gan academyddion yn Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar be' allai fod wedi digwydd yn etholiad mis Mai o dan systemau pleidleisio gwahanol.

O dan y system sy'n cael ei ffafrio gan Lafur, yn ôl yr adroddiad, byddai'r blaid wedi ennill 11 yn rhagor o seddi - 41 yn hytrach na 30, gan roi 70% o'r Senedd i Lafur gyda 42% o'r bleidlais.

"Er gallai hyn fod yn newydd da i ymgeiswyr Llafur, mae'n newydd drwg i bleidleiswyr Cymru," meddai Steve Brooks, cyfarwyddwr y Gymdeithas Diwygiad Etholiadol yng Nghymru.

"Byddai system dau aelod 'cyntaf i'r felin' yn dwyn hawl miloedd o bleidleiswyr i gael dewis a llais."

'Niweidiol'

Dywedodd y byddai gan y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol llai na thraean y seddi, er iddyn nhw ennill dros hanner y pleidleisiau ym mis Mai.

"Byddai hynny'n niweidiol i ddemocratiaeth ac yn niweidiol i ddatganoli," meddai.

Yn ôl Plaid Cymru, fe ddylai'r penderfyniad ynglŷn â system bleidleisio'r Cynulliad gael ei wneud ym Mae Caerdydd.

"Mae'n cael ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol yn San Steffan," meddai Jocelyn Davies, "ond gallwn ni gael trafodaeth gall am y peth yma, dyna beth mae bod yn senedd yn ei olygu."

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae'n amlwg bod barn grŵp Llafur y cynulliad wedi cael ei anwybyddu gan Lywodraeth Cymru. Dyma enghraifft bur o achub ar gyfle."

Dywedodd Peter Black, o'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig fod "Llafur yn ceisio adeiladu mwyafrif artiffisial. Rwy'n methu deall pam bod Llafur yn canolbwyntio cymaint ar y mater yma".

Yn ôl awduron yr adroddiad, Roger Scully ac Owain ap Gareth, petai'r ffiniau cynulliad a seneddol yn cael eu "dadgyplu", bydden nhw'n cefnogi cael 80 o ACau fyddai'n cael eu hethol drwy'r system 'pleidlais sengl drosglwyddadwy' - rhywbeth sy'n cael ei argymell gan y Comisiwn Richard, grŵp trawsbleidiol sy'n edrych ar ddatganoli ers 2004.

Dywedodd yr ERS mai'r 'bleidlais sengl drosglwyddadwy', ar y cyfan, fyddai'r system etholiadol fydden nhw'n ei ffafrio.

'Camddehongli'

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid Lafur, roedd y gymdeithas wedi "camddehongli" safbwynt y blaid.

"Ac mae ein safbwynt ni'n hollol glir - does gan y Ceidwadwyr yn San Steffan ddim mandad i newid y system etholiadol yng Nghymru," meddai.

"Dyna'r opsiwn 'da ni'n ei 'ffafrio'. Mae'n warth bod yr ERS - yn hytrach na chefnogi galwadau pobl Cymru i gael lleisio'u barn ar unrhyw newid i'r system bleidleisio - wedi penderfynu cyhoeddi datganiad od, sy'n amlwg yn anghywir."

Dywedodd un o ffynonellau'r blaid nad oedd seddi dau-aelod erioed wedi cael eu defnyddio yn etholiadau'r cynulliad na San Steffan, a'i bod felly yn amhosib darogan sut y byddai pobl yn pleidleisio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.