Cwmni cludo nwyddau yn bwriadu diswyddo 140 o bobl
- Cyhoeddwyd

Mae rhwydwaith cludo nwyddau wedi cadarnhau y bydd 140 o swyddi'n diflannu wrth iddyn nhw gau tri o'u canolfannau yng Nghymru.
Mae cwmni Yodel yn bwriadu cau eu safleoedd yn Y Gaerwen, Ynys Môn; yng Nghapel Hendre, Sir Gaerfyrddin ac yng Nghaerdydd.
Bydd hynny'n digwydd yn ystod hanner cynta' 2012, yn ôl y cwmni.
Bydd nifer o safleoedd y cwmni yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd yn cau.
Ond cadarnhaodd y cwmni y bydd pedwar safle yn parhau ar agor yng Nghymru - yn Nantgarw, Llandudno, Llanelli ac Aberystwyth.
Mae 11 o staff yn gweithio yn y ffatri yn Y Gaerwen, 26 yng Nghapel Hendre a 103 yng Nghaerdydd.
Yn ôl y cwmni, mae'r datblygiad yn rhan o'u cynlluniau i "geisio gweithredu'n fwy proffidiol", a bod y strategaeth yn ymwneud â "darparu gwasanaeth cyflymach a mwy hyblyg, yn ôl dymuniadau cwsmeriaid, ynghyd â safonau uwch o gyfleustra".
Dywedodd Jonathan Smith, Prif Weithredwr Yodel, nad yw hyn wedi bod yn benderfyniad hawdd.
"Mae'n rhaid i ni wneud hyn er mwyn cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid a chreu model busnes cynaliadwy a phroffidiol."
"Rydym wedi bod yn cynnal dau rwydwaith gweithredol ers yn gynnar yn 2010 gyda hyblygrwydd cyfyngedig ac rydym wedi cwblhau'r gwaith nawr er mwyn symud i un rhwydwaith."
Ychwanegodd y cwmni eu bod yn "cydweithio'n agos â chwmnïau eraill ar draws y sector i sicrhau bod y newid yn digwydd yn ddidrafferth a bod pawb yn cael eu hysbysu'n llawn ynglŷn â'r holl opsiynau sydd ar gael iddyn nhw".