Hyfforddwr yn aros tan 2016

Robert Howley Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae Rob Howley wedi bod yn aelod o dîm hyfforddi Cymru ers 2008

Mae hyfforddwr ymosod Cymru wedi arwyddo cytundeb â Thîm Rygbi Cymru fydd yn golygu y bydd yn ei swydd tan ganol 2016, yn ôl Undeb Rygbi Cymru.

Daw'r cyhoeddiad wedi cadarnhad y bydd hyfforddwr amddiffyn Cymru Shaun Edwards yn aros yn ei swydd tan Gwpan y Byd 2015.

Ond mae cytundeb Howley yn sicrhau na fydd yn gallu gadael ei swydd yr un pryd â Shaun Edwards.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: "Mae hyn yn sicrhau na fydd hi'n bosib i holl aelodau'r tîm hyfforddi allu gadael eu swyddi yr un pryd."