Abertawe 0-1 Manchester United

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Reuters
disgrifiad o’r llun, Hernandez gymrodd fantais o dim Abertawe oedd yn sigleidg ar y dechrau

Ergyd gynnar Javier Hernandez ddaeth a diwedd i rediad Abertawe o beidio colli gartref yn yr Uwchgynghrair.

Manchester United oedd yr ymwelwyr i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Dyma o bosib un o'r gemau mwyaf i'r ddinas.

Mae'r gôl hefyd yn sicrhau bod Manchester United yn parhau gyda'r pwysau ar eu cymdogion Manchester City, sydd â phum pwynt o fantais ar y brig.

Camgymeriad gan Angel Rangel arweiniodd at y Cymro Ryan Giggs yn croesi i Hernandez wnaeth ganfod y gôl wedi 10 munud.

United wnaeth reoli gweddill yr hanner cyntaf er i Scott Sinclair wastraffu cyfle gwych i'r Elyrch wrth iddo fethu'r ergyd wedi 22 munud.

Fe wnaeth Wayne Routledge groesi'n berffaith o'r postyn pella' ond methodd Sinlcair o chwe llath cyn i United glirio.

Arbed

Roedd Giggs a Michael Carrick - y ddau yn cychwyn eu gêm gynghrair gyntaf o'r tymor - yn rheoli'r canol wrth iddyn nhw gael lle ac amser i wneud hynny.

Fe wnaeth y Cymro chwarae am 75 munud cyn cael ei eilyddio.

ffynhonnell y llun, AP
disgrifiad o’r llun, Dyma un o gemau mwyaf y tymor i ddinas Abertawe

Yr unig ymgais a gafwyd at gôl Abertawe cyn yr hanner oedd ergyd isel Patrick Evra ond llwyddodd gôl-geidwad Yr Elyrch, Michel Vorm, i'w harbed.

Roedd Abertawe llawer cryfach yn yr ail hanner ac fe gafwyd sawl ymgais at y gôl.

Roedden nhw'n gryf ar yr ystlys wrth i Nathan Dyer roi cyfnod anghysurus i Evra.

Cafodd Y Ffrancwr ei eilyddio yn fuan yn yr ail hanner ar ôl derbyn cerdyn melyn, yr unig chwaraewr i gael cerdyn drwy gydol y gêm.

Doedd Joe Allen ddim yn dechrau i Abertawe oherwydd anaf ond daeth ymlaen yn yr ail hanner yn lle Wayne Routledge.

Ac fe aeth yn syth i ferw'r gêm wrth iddo basio at Sinclair a gorfodi David de Gea i arbed i'r ymwelwyr.

Methodd Hernandez a dyblu'r sgôr yn ddiweddarach ac roedd rhaid i de Gea wneud sawl ergyd wrth i Abertawe bwyso.

Yn yr ail hanner daeth dau ymgais am gôl gan Wayne Rooney.

Methodd Phil Jones a rhwydo wrth i'r bêl daro'r postyn pella ac fe wyrodd ergyd Luis Nani heibio'r gôl.

Doedd hwn ddim yn berfformiad gwych gan United wrth iddyn nhw fethu unwaith eto i gydlynu tua diwedd y gêm.

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Manchester United yn erbyn Abertawe.

Roedden nhw wedi colli chwech ac wedi cael dwy gêm gyfartal yn y gorffennol.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol