Reading 1-2 Caerdydd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
disgrifiad o’r llunPeter Whittigham yn dathlu ei gôl dros Gaerdydd

Reading 1-2 Caerdydd

Cododd Caerdydd i'r pedwerydd safle yn Y Bencampwriaeth ar ôl perfformiad arbennig yn Reading.

Rhwydodd Peter Whittingham ar ôl dau funud yn unig yn Stadiwm Madejski.

Daeth ail gôl Yr Adar Gleision wedi cic rydd wrth i Mark Hudson ganfod y rhwyd a hynny 20 munud cyn diwedd y gêm.

Ond saith munud yn ddiweddarach cafodd Jimmy Kebe gôl i'r tîm cartref.

Dyma drydedd fuddugoliaeth Caerdydd o'r bron.

Tabl y Bencampwriaeth

Dydd Sadwrn Tachwedd 19 2011