Ymchwiliad wedi i drên adael y cledrau
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni rheilffordd treftadaeth wedi cadarnhau bod ymchwiliad yn cael ei gynnal wedi i locomotif adael y cledrau.
Digwyddodd y ddamwain ar reilffordd Pont-y-pŵl a Blaenafon ddydd Sul Tachwedd 13.
Rholiodd locomotif diesel Dosbarth 37 sy'n pwyso 95 tunnell o sied cyn teithio ar hyd y cledrau gan daro dau locomotif arall.
Gadawodd bob un o'r trenau'r cledrau ond ni chafod unrhyw un eu hanafu.
Argymhellion
Dywed y rheilffordd na fyddan nhw'n gwybod beth yw maint y difrod tan i'r trenau gael eu symud.
Bydd cyfarpar arbenigol yn cael ei ddefnyddio i ail osod y trenau ar y cledrau.
Mewn datganiad, dywedodd y rheilffordd fod arolygwyr Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd (SRR) wedi ymweld â'r safle ac eisoes wedi cynnig argymhellion.
Ychwanegodd y datganiad fod y rheilffordd yn cyd-weithio â'r SRR ac yn cynnal ymchwiliad mewnol.
Cafodd y rheilffordd ei sefydlu ym 1980 ac mae gwirfoddolwyr wedi casglu tua 70 o gerbydau a nifer fawr o drenau diesel a locomotifau stêm.
Mae'r rheilffordd wedi ei leoli ar un o'r llethrau mwyaf serth ym Mhrydain.