Gŵyl yn trafod lluniau'r stryd

Llun Jon Pountney Image copyright Other
Image caption Tynnwyd y llun yma yng Nghaerdydd

'Ffotograffiaeth Stryd' yw thema gŵyl flynyddol y Llyfrgell Genedlaethol sy'n dechrau nos Wener yn Aberystwyth.

Y noson gyntaf mae sgwrs gan yr artist a'r ffotograffydd Bedwyr Williams.

Enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol 2011 yn Wrecsam.

Ddydd Sadwrn bydd pedwar ffotograffydd arall yn sôn am eu gwaith, gan gynnwys Jon Pountney.

Fe ddaeth o hyd i luniau o Gaerdydd oedd wedi eu tynnu yn y 1980au ac mae wedi tynnu lluniau o'r un llefydd.

Un arall fydd yn yr ŵyl yw Tom Wood neu 'Photieman'.

Casgliad

Mae wedi bod yn tynnu lluniau ar strydoedd Lerpwl am 25 o flynyddoedd.

Bydd aelod o staff y llyfrgell, Scott Waby, yn sôn am agweddau ar gasgliad ffotograffau'r llyfrgell sy'n cynnwys lluniau Martin Ridley o strydoedd de Cymru tua chanrif yn ôl.

Bydd Dr Paul O'Leary, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth, hefyd yn annerch.

Dywedodd Siôn Jobbins, un o drefnwyr yr ŵyl: "Dyma'r seithfed ŵyl ac mae'n ffordd i ni dynnu cymuned ffotograffiaeth Cymru at ei gilydd.

"Rydyn ni'n gweld hon yn ffordd o uno'r gorffennol a'r presennol a dangos bod ffotograffau sy'n dangos bywyd a phobl Cymru yn fyw ac yn iach."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.