Uned ddialysis newydd i'r canolbarth

Dialysis arennol Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe fydd y gwaith adeiladu'r uned yn ysbyty Llandrindod yn dechrau erbyn diwedd y mis

Bydd uned ddialysis arennol newydd ym Mhowys yn helpu lleihau amser teithio cleifion.

Fe fydd y gwaith o godi'r uned yn ysbyty Llandrindod yn dechrau ddiwedd y mis gyda'r gobaith o'i gwblhau yn gynnar yn 2012.

Ar hyn o bryd mae'n rhaidi rai cleifion deithio tua 30 milltir i Henffordd i gael triniaeth dialysis.

Hefyd bydd uned dros dro yn Ysbyty'r Trallwng yn cael ei newid i un llawn amser y flwyddyn nesaf.

Cafodd yr uned ei hagor y llynedd.

Mae Bwrdd Iechyd Powys, Ysbyty Prifysgol Birmingham, Rhwydwaith Clinigau Arennol Cymreig a Llywodraeth Cymru wedi cyd-weithio i ddatblygu'r uned newydd yn Llandrindod.

Dywedodd cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Powys, Brendan Lloyd: "Fe fyddwn ni'n helpu gwella bywydau ein trigolion drwy sefydlu uned dialysis arennol yn Llandrindod.

"Mae dialysis arennol yn effeithio'r claf, eu teuluoedd a'u ffrindiau.

"Fe fydd yr uned hon yn sicrhau y bydd llai o gleifion yn gorfod teithio y tu allan i Bowys am driniaeth ac yn gwneud y broses yn llai anghyfforddus."

Bydd yr uned dialysis arennol yn Llandrindod yn trin 16 o gleifion bob dydd ac fe fydd yr uned ar agor chwe diwrnod yr wythnos.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.