Ffioedd prifysgol i gostio £3.6bn i Lywodraeth Cymru

Prifysgol Bangor Image copyright Other
Image caption Ni fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu ffioedd uwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu ei bod yn disgwyl gwario amcangyfrif o £3.6 biliwn ar addysg prifysgol dros y pedair blynedd nesaf.

Mae'r gwrthbleidiau wedi rhybuddio y gallai'r ffigwr gynyddu.

Bydd ffioedd dysgu prifysgolion yn cynyddu yn sylweddol y flwyddyn nesaf, ond mae polisi Llywodraeth Cymru yn golygu na fydd myfyrwyr o Gymru yn gorfod talu mwy.

Dywed y llywodraeth eu bod wedi ariannu'n cymhorthdal, ond yn dweud bod yr amcangyfrif yn seiliedig ar "ystod eang o faterion ansicr" ac y gallai'r gost newid.

Amlinellodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, y gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr.

Mae'n cynnwys mwy na £1 biliwn i ofalu am y cynnydd mewn ffioedd prifysgolion o £3,400 i'r uchafswm o £9,000 fis Medi nesaf.

Ni fydd rhaid i fyfyrwyr o Gymru dalu mwy dim ots ble y byddan nhw'n astudio yn y DU.

Bydd yr arian hefyd ar gael i fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd sy'n astudio yng Nghymru, ond nid rhai o Loegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae'r £3.6 biliwn hefyd yn cynnwys grant yn seiliedig ar brawf modd o hyd at £5,000 ac £1.86 biliwn ar gyfer y benthyciadau y mae myfyrwyr yn eu had-dalu pan fyddan nhw'n ennill mwy na £21,000 y flwyddyn.

'Dim gwaeth'

Wrth gyhoeddi'r ffigyrau ar Ddiwrnod Cenedlaethol Cyllid Myfyrwyr, dywedodd Mr Andrews:

"Fy neges i i fyfyrwyr sy'n ystyried addysg uwch yw hyn - os ydych yn byw yng Nghymru fel arfer ac yn ystyried mynd i brifysgol yn y flwyddyn academaidd nesaf, fyddwch chi ddim gwaeth na phetai chi wedi mynd i brifysgol eleni.

"Rwy'n credu ei bod hi'n hollbwysig i ni gefnogi ein myfyrwyr a'u cynorthwyo pan mae hynny'n bosib, a dyna pam yr ydym wedi creu'r system fwyaf teg i ariannu myfyrwyr erioed."

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod "ystod eang o faterion ansicr" wrth amcangyfrif y gost.

Mae'r ffigyrau yn "arwydd o'r goblygiadau ariannol tebygol", ac fe allai'r amcangyfrif newid os fydd nifer y myfyrwyr, lefelau ffioedd a'r nifer sy'n derbyn benthyciad yn newid.

Mae wyth o brifysgolion Cymru wedi cael caniatad i godi'r uchafswm o £9,000 y flwyddyn mewn ffioedd.

Rhybuddiodd llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, Angela Burns, y gallai amcangyfrif Llywodraeth Cymru gynyddu'n sylweddol.

Dywedodd: "Roedd hyn yn enghraifft o greu polisi cyn etholiad ar ei waethaf.

"Mae gweinidogion yn peryglu cyllid Cymru drwy gyhoeddi polisi allweddol i ariannu prifysgolion heb sefydlu'r baich y bydd y polisi yn ei osod ar ysgwyddau trethdalwyr Cymru."

Dywedodd Plaid Cymru ei fod yn cefnogi egwyddor y polisi, ond yn amau os oedd yn fforddiadwy.

Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Simon Thomas, fod penderfyniad y prifysgolion i godi £9,000 yn "ergyd annisgwyl" i'r llywodraeth.

Ychwanegodd: "Rydym am weld y gweinidog a sefydliadau addysg uwch yn uno i greu strwythur gyllido prifysgolion sy'n gryf a chynaliadwy yng Nghymru."

Dywedodd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar addysg, Aled Roberts: "Rhaid i mi amau os yw gwario fel hyn yn gynaliadwy.

"Mae nifer o dybiaethau wedi eu gwneud am y nifer fydd yn manteisio ar y polisi."

Straeon perthnasol