Bangor yn codi i'r ail safle
- Cyhoeddwyd

Mae tîm Bangor wedi codi i'r ail safle ar ôl eu buddugoliaeth gartre nos Fercher ac mae Castell-nedd wedi codi un safle i'r pedwerydd ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal gartref yn erbyn y tîm sydd ar y brig.
Llwyddodd Bangor i sgorio ddwywaith ar Ffordd Farrar yn erbyn Airbus.
Dim ond dwy funud o'r gêm oedd wedi ei chwarae cyn i Chris Jones sgorio i Fangor.
Llwyddodd yr ymwelwyr i ddod yn gyfartal yn yr ail hanner wedi 54 munud wrth i Craig Whitfield sgorio.
Ond daeth Bangor yn ôl a sicrhau'r fuddugoliaeth wrth i Les Davies rwydo wedi 76 munud.
Daeth y ddwy gôl yn y gêm arall yn yr hanner cyntaf.
Craig Hughes yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen cyn i Steve Evans sgorio wedi 33 munud i'r Seintiau.
Mae'r Seintiau yn parhau i fod ar frig y tabl.
Canlyniadau:
Nos Fercher
Bangor 2-1 Airbus
Castell-nedd 1-1 Y Seintiau Newydd
Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports: Nos Fercher Tachwedd 9 2011.