Creu 100 o swyddi mewn canolfan alwadau

canolfan alwadau (llun generig) Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r cwmni yn cynnig gwasanaeth ateb galwadau i fusnesau

Mae cwmni o Wrecsam wedi cyhoeddi eu bod yn creu 100 o swyddi ychwanegol mewn canolfan alwadau.

Cafodd cwmni Moneypenny ei sefydlu yn 2000.

Erbyn hyn mae'r cwmni, sy'n cynnig gwasanaeth ateb galwadau i fusnesau, eisoes yn cyflogi dros 200 o weithwyr ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr Glenn Jackson ei fod yn gobeithio y byddai'r cwmni yn tyfu.

"Mae hon yn garreg filltir i'r cwmni.

"Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn Wrecsam ers degawd ac yn ymrwymedig i'r ardal oherwydd y bobl wych rydym wedi medru eu recriwtio.

"Er bod cwmnïau yn torri'n ôl maen nhw dal angen pobl i ateb galwadau cwsmeriaid."

Straeon perthnasol