Tân yn swyddfa Rheilffordd yr Wyddfa

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunOther
disgrifiad o’r llunCafodd yr awdurdodau brys eu galw i'r safle yn Llanberis tua 9pm nos Sul

Cafodd swyddfeydd Rheilffordd yr Wyddfa yn Llanberis eu difrodi mewn tân nos Sul, gyda phedwar o beiriannau yn taclo'r fflamau.

Roedd 'na ddifrod i thua 80% o ganol un o'r swyddfeydd a bu'n rhaid i griwiau o Lanberis, Caernarfon a Bangor wisgo offer anadlu a chamera lluniau thermal wrth ddelio â'r tân.

Cafodd yr awdurdodau brys eu galw toc cyn 9:00pm nos Sul a bu criwiau tân ar y safle tan 05:40am fore Llun.

Y gred yw bod eithin wedi cynnau y tu ôl i'r adeilad a bod y fflamau wedi lledu i'r adeilad.

Dyw hi ddim yn eglur sut y cyneuodd y tân eithin.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol