Caerdydd yn codi i'r pedwerydd safle

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Other
disgrifiad o’r llunKenny Miller yn dathlu wedi iddo sgorio gôl gyntaf Caerdydd ddydd Sadwrn

Mae Caerdydd wedi codi i'r trydydd safle ar ôl curo Crystal Palace o ddwy gôl i ddim yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Cyn yr ornest ddydd Sadwrn roedd gan Crystal Palace un pwynt yn fwy na'r Adar Gleision yn y pedwerydd safle.

Kenny Miller sgoriodd gôl gynta'r Adar Gleision wedi 69 munud cyn i Peter Whittingham ddyblu'r fantais 11 munud yn ddiweddarach.

Y rhain oedd y goliau cyntaf i Crystal Palace ildio mewn chwe gêm.

Mae Caerdydd wedi codi i'r trydydd safle yn y Gynghrair Yn dilyn eu buddugoliaeth ddydd Sadwrn.

Fe fydd gêm nesaf Caerdydd yn erbyn Reading yn Reading ar Dachwedd 19.

Torf: 22,032

Tabl Pencampwriaeth nPower