Hen filwyr yn cefnogi Apêl y Pabi

Arthur Jones (ar y chwith) yn Y Rhyl Image copyright Other
Image caption Roedd Arthur Jones (ar y chwith) yn 21 oed pan gymerwyd y llun yma ohono yn Y Rhyl

Ymysg y rhai fydd yn casglu arian yn ystod cyfnod Apêl y Pabi eleni fydd dau hen filwr a fu'n ymladd yn Rhyfel Korea.

Mae Peter Archer, sydd bron yn 81 oed, ac Arthur Jones, 78 oed, sy'n byw yn Wrecsam, yn ceisio codi proffil yr apêl yng ngogledd Cymru.

Er bod 60 mlynedd wedi mynd heibio mae atgofion Mr Archer o Ryfel Korea dal yn boenus dros ben i'r cyn-yrrwr tanc.

Ymunodd â'r Peirianwyr Trydanol a Mecanyddol Brenhinol yn 1952 ac ymhen 18 wythnos cafodd ei anfon i Korea.

"Doeddwn erioed wedi bod i ffwrdd o'm cartref o'r blaen," meddai.

"Roedd yn brofiad hollol newydd i mi."

Cofio

Lladdwyd dros 1,000 o filwyr Prydain yn ystod y rhyfel rhwng Gogledd a De Korea.

Yn awr mae Mr Archer yn falch iawn o wisgo ei babi er mwyn cofio'r rhai a gollodd eu bywydau.

Ymunodd Mr Jones â'r llynges ym 1953 pan oedd yn 17 mlwydd oed.

Yn ystod Rhyfel Korea roedd yn daniwr ar fwrdd yr HMS Unicorn.

"Mae Apêl y Pabi yn bwysig dros ben, yn enwedig nawr gydag Afghanistan," meddai.