Craig Bellamy'n clodfori camp Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Y ddau Gymro Bellamy ac Ashley Williams yn ystod gêm rhwng Caerdydd ac Abertawe

Dywedodd ymosodwr Lerpwl, Craig Bellamy, ei fod yn teimlo balchder wrth weld sut y mae Abertawe wedi dechrau eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair.

Mae hynny'n gryn dipyn o glod gan un o gyn chwaraewyr Caerdydd.

Bydd tîm Brendan Rodgers, sy'n cynnwys nifer o gyd chwaraewyr Bellamy gyda Chymru, yn teithio i Anfield i wynebu Lerpwl ddydd Sadwrn.

Dywed Bellamy fod yr Elyrch wedi profi eu bod yn haeddu eu lle ar y lefel uchaf.

'Aros i fyny'

Dywedodd: "Yr unig rai oedd yn amau hynny oedd pobl o'r tu allan i Gymru mwy na thebyg....pobl sydd ddim yn deall Abertawe fel clwb.

"Am eu bod allan o'r ffordd, dydyn nhw ddim yn cael y sylw y mae clybiau eraill yn ei gael, mae hynny'n amlwg.

"Ond mae unrhyw un sydd wedi dilyn hynt a helynt Abertawe yn gwybod bod yr Uwchgynghrair yn eu siwtio i'r dim.

"Mae'r Uwchgynghrair yn eu siwtio nhw'n well na'r Bencampwriaeth oherwydd eu dull o chwarae a'r chwaraewyr sydd ganddyn nhw.

"I mi, gyda'r chwaraewyr sydd ganddyn nhw a'u dull o chwarae fe fyddan nhw'n aros i fyny - dwi wir yn credu hynny."

'Dechrau sylwi'

Nid yw Abertawe wedi ennill oddi cartre' hyd yma'r tymor hwn, ond yn Stadiwm Liberty maen nhw wedi ennill tair a chael dwy gêm gyfartal gan ildio dim ond un gôl - mae hynny wedi eu gadael yn ddegfed yn y tabl.

Ychwanegodd Bellamy: "Mae llawer yn dechrau sylwi ar yr hyn maen nhw'n ei wneud ac yn sylweddoli eu bod yn dîm pêl-droed da iawn.

"Bydd yr Uwchgynghrair yn well gydag Abertawe ynddo.

"Dwi'n gwybod mai dyn Caerdydd ydw i, ac fe fyddai'n well o lawer gen i weld Caerdydd yn gwneud hyn - wrth gwrs hynny.

"Ond ar yr un pryd, dwi'n Gymro, ac mae dilyn Abertawe a gweld y ffordd y maen nhw'n chwarae yn rhoi balchder i mi hefyd."

Treuliodd Bellamy y tymor diwethaf ar fenthyg yng Nghaerdydd o'i glwb ar y pryd - Manchester City - cyn symud i Anfield am ei ail gyfnod yno yn ystod yr haf.

Mae Lerpwl wedi cael dechrau da i'r tymor, ac yn chweched yn y tabl ar hyn o bryd.

Eu huchelgais mae'n debyg yw gorffen ymhlith y pedwar uchaf er mwyn sicrhau lle yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Mae'n debyg mai uchelgais Abertawe yw aros yn yr Uwchgynghrair am dymor arall, ond fe fyddai hynny'n gamp llawn cystal.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Straeon perthnasol