Caerdydd yn codi i'r pumed safle

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Kiss ar y dde yn dathlu ei gôl gyntaf i Gaerdydd gyda Kenny Miller

Mae Caerdydd wedi codi i'r pumed safle ar ôl curo Derby o dair gôl i ddim yn Pride Park.

Cafodd Filip Kiss ei gôl gynta' i'r Adar Gleision.

Daeth y gôl wedi 20 munud o chwarae.

Fe wnaeth Kevin Kilbane rwydo i'w rwyd ei hun yn yr ail hanner.

Yna fe lwyddodd Peter Whittingham roi'r ymwelwyr ymhellach ar y blaen wedi 73 munud.

Dyma oedd ail fuddugoliaeth Caerdydd oddi cartref y tymor yma.

Fe fydd Caerdydd yn croesawu Crystal Palace i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, y tîm sydd ag un pwynt yn fwy na'r Adar Gleision yn y pedwerydd safle.

Tabl Pencampwriaeth nPower

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Southampton 15 +18 33
2. West Ham 15 +13 28
3. Middlesbrough 15 + 7 27
4. Crystal Palace 15 +6 25
5. CAERDYDD 15 +7 24
6. Hull 14 +1 24