Cerflun cranc i promenâd Pensarn

Cranc gwydr Image copyright Other
Image caption Mae gweddill cerfluniau gwydr Rebeca Newman i’w gweld yng Nghumbria, Newcastle a Barnsley

Mae aelodau o grŵp cymunedol ger Abergele am groesawu trigolyn newydd i'w promenâd fory - cranc wedi'i lunio o wydr.

Llwyddodd PeBel, cymdeithas trigolion ardal Pensarn a Belgrano, i guro cannoedd o ymgeiswyr eraill wrth gystadlu am y cerflun a dudalen Facebook Kenco, wrth i'r cwmni coffi hyrwyddo eu prosiect ail-gylchu gwydr.

Mae cranc, a elwir yn Lois, yn 2m o hyd a 1.7m o uchder.

Bydd Michaela Strachan a Chris Packham, cyflwynwyr AutumnWatch, yn dadorchuddio'r cerflun ger caffi'r traeth ar ochr orllewinol y promenâd am 9.30 ar Dachwedd 3.

"Roedd yn rhaid rhoi rheswm pam eich bod eisiau ennill un o'r anifeiliaid gwydr," eglurodd Glenda Morrison, ysgrifenyddes PeBel.

"Eglurais fy mod i eisiau'r cranc ar gyfer ein cymuned ni gan ein bod wrth y môr efo prom prydferth - bydd yn edrych yn berffaith yna."

Ffrwd

Nod nesaf PeBel yw hel arian er mwyn gallu adeiladu ffrwd ddŵr i redeg o amgylch y cerflun, bydd yn cael ei chynnal gan baneli solar er mwyn cadw i'r themâu amgylcheddol.

"Mae hyn yn rhan o gynllun PeBel i wella'r gymuned yma sy'n ddigon tlawd gyda nifer o bobl allan o waith," dywedodd Mrs Morrison.

"Yn 2009, ddaru ni benderfynu gweithio dros ein cymuned, ac rydym yn barod wedi adeiladu wal dringo, campfa awyr agored ar y prom, gardd natur a sedd wedi ei cherfio allan o bren yn edrych dros y bae.

"Felly, mae gan bawb gyfleusterau sy'n costio arian, fel arcedau a'r caffis, a rhai pethau sydd yn rhad ac am ddim."

Dywedodd Michaela Strachan, oedd yn rhan o dîm beirniadu'r gystadleuaeth, "Mi wnes i fwynhau bod yn rhan o'r chwilio am gartref i Lois y cranc. Dwi'n sicr y bydd y cerflun prydferth yn ychwanegiad gwych i'r gymuned."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.