Galw am newid rheolau estraddodi
- Cyhoeddwyd

Mae dyn, a garcharwyd ac yna ei ryddhau yn dilyn marwolaeth Cymro yng Ngwlad Groeg, wedi galw am newid cyfraith estraddodi Ewrop.
Ar ôl brwydr hir fe gafodd Andrew Symeou, 23 oed o Enfield, ei estraddodi i Wlad Groeg, lle dreuliodd flwyddyn yn y carchar.
Yn wreiddiol cafodd ei garcharu am ddynladdiad Jonathan Hiles, 18 oed o Gaerdydd, a fu farw o anafiadau i'w ymennydd ar ôl syrthio oddi ar lwyfan mewn clwb nos yn Zakynthos.
Dywedodd Mr Symeou: "Rwyf am atal hyn rhag digwydd i bobl ddieuog."
Roedd Mr Symeou wedi ei gyhuddo o daro Mr Hiles yn ei wyneb a'i daro yn anymwybodol. Ar ôl hynny honnir bod Mr Hiles wedi syrthio oddi ar y llwyfan.
Gwadodd Mr Symeou ei fod yn y clwb nos ar y pryd.
'Anghyfiawn'
Roedd o wedi ei gadw yng Ngwlad Groeg ers Gorffennaf 2009. Bu yn y carchar am 11 mis ac ar fechnïaeth am flwyddyn.
"Mae fy achos yn dangos pa mor anghyfiawn yw'r ddeddf estraddodi," meddai.
"Doedd gan farnwyr yn y Deyrnas Unedig fawr o rym i wrthsefyll y broses er gwaetha'r ffaith fod y dystiolaeth yn wan."
Daeth y rheolau estraddodi presennol i rym yn 2004.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn astudio argymhellion a wnaed mewn arolwg annibynnol o'r sefyllfa.
"Byddwn yn ymateb maes o law," meddai.
Bu farw Mr Hiles ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 19 oed.
Roedd Mr Hiles yn aelod o Dîm Hoci Iâ Iau Cardiff Devils a chynrychiolodd Prydain mewn cystadlaethau hoci iâ a hoci ar olwynion.
Dywedodd ei dad, Denzil Hiles, y byddai'n apelio yn erbyn y penderfyniad i ryddhau Mr Symeou.
Straeon perthnasol
- 20 Mehefin 2011
- 17 Mehefin 2011
- 8 Tachwedd 2010
- 11 Ionawr 2010
- 23 Gorffennaf 2009
- 1 Mai 2009