Pa mor olau yw hi wedi troi'r clociau?

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Mae'r arferiad o droi'r clociau awr yn ôl wedi bod yn destun ffrae ers blynyddoedd. Dydd Gwener cyhoeddodd Llywodraeth Prydain eu bod yn bwriadu ymgynghori ar y mater. Ond pa mor dywyll neu ola' ydy hi wedi troi'r clociau. Dyma luniau ddaeth i law Post Cyntaf bore Llun. Dyma'r wawr yn torri y tu allan i stiwdio Post Cyntaf yng Nghaerdydd am 7am ddydd Llun
Disgrifiad o’r llun, Yr olygfa gan @Sigldigwt o Aberystwyth am 6.41am bore Llun
Disgrifiad o’r llun, Gwawrio yn Llandaf bore Llun gyda thwr yr Eglwys Gadeiriol uwchben y ddinas a Stadiwm y Mileniwm yn y pellter