Tân mewn oergell ar stad ddiwydiannol yn y Gaerwen ar Ynys Môn

Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty gyda mân anafiadau yn dilyn tân mewn oergell ar stad ddiwydiannol yn y Gaerwen ar Ynys Môn.

Ar ôl rhybudd cynharach bod amonia wedi ei ollwng i'r awyr, mae'r heddlu yn dweud ei bod hi'n ddiogel bellach i bobl adael eu cartrefi.