RaboDirect Pro12

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llunSNS (Scotland)
disgrifiad o’r llunCanolwr Y Gweilch Andrew Bishop yn cael ei daclo gan chwaraewyr Glasgow

Ciciodd maswr Glasgow Duncan Weir 23 o bwyntiau ei ranbarth wrth iddyn nhw guro'r Gweilch yn Firhill nos Wener.

Dyma oedd colled cyntaf y tîm o Gymru yng nghystadleuaeth y Pro12.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 12 i 6 ar yr hanner wrth i Matthew Morgan gicio pedair cic gosb.

Ond daeth Weir yn gyfartal ac wedi i'r Gwalch Richard Hibbard gael ei anfon i'r gell gosb wedi awr o chwarae fe fanteisiodd y tîm cartref fod ganddyn nhw un yn fwy ar y cae.

Cafodd Richie Grey gais i Glasgow cyn i Morgan gael cais hwyr i'r ymwelwyr.

Ond methodd a'i throsi.

Scarlets 24-17 Ulster

ffynhonnell y llunOther
disgrifiad o’r llunLiam Williams yn sgorio cais cyntaf y Scarlets

Cais hwyr Adam Warren sicrhaodd y fuddugoliaeth wedi gêm agos ym Mharc y Scarlets.

Y Scarlets oedd ar y blaen 13-3 ar yr egwyl ar ôl cais Liam Williams a throsiad a chic gosb Aled Thomas.

Ychwanegodd Ian Humphreys ail gic gosb cyn i gais Andrew Trimble roi gobaith i Ulster.

Ond roedd cais Warren wedi 73 munud yn allweddol.

Treviso 50-24 Dreigiau

ffynhonnell y llunOther
disgrifiad o’r llunTonderai Chavhanga sgoriodd ddau o dri chais y Dreigiau

Ildiodd y Dreigiau saith cais, gan gynnwys tri - dau gan Brendan Williams ac un gan Alessandro Zanni - yn yr 16 munud cyntaf.

Ychwanegwyd ceisiau gan Ludovico Nitoglia, Tobias Botes, Robert Barbieri a Paul Derbyshire.

Ymatebodd y Dreigiau gyda dau gais gan Tonderai Chavhanga ac un gan Steffan Jones.

Connacht 20-26 Gleision Caerdydd

ffynhonnell y llun(C) British Broadcasting Corporation
disgrifiad o’r llunRodney Ah You o Connacht yn cael ei daclo gan Maama Molitika

Connacht (17) 20 Ceisiau: O'Halloran, McCarthy Trosiadau: O'Connor 2 Ciciau cosb: O'Connor, Nikora

Gleision (6) 26 Ceisiau: Cuthbert, Laulala Trosiadau: Parks 2 Ciciau cosb: Parks 3 Cic adlam: Park

Brwydrodd y Gleision yn ôl o fod 17-6 i lawr ar yr egwyl i faeddu Connacht yn Galway.

Sgoriodd Tiernan O'Halloran a Mike McCarthy i Connacht yn yr hanner cyntaf gyda Dan Parks yn llwyddo gyda dwy gic gosb.

Ond roedd y Gleision wedi bygwth yn yr hanner cyntaf ac fe ymatebodd Alex Cuthbert a Casey Laulala gyda cheisau a gafodd eu trosi yn fuan ar ôl yr egwyl.

Cais arall Laulala tua diwedd y gêm roddodd y Gleision ar y blaen ac er i gic gosb Miah Nikora ddod â Connacht yn gyfartal, roedd cic gosb a chic adlam gan Parks yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol