Llai yn gwrando ar Radio Cymru

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, bbc

Yn ôl y ffigyrau gwrandawyr gorsafoedd radio diweddara', mae 138,000 o bobl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos.

Mae hyn 8,000 yn llai na'r niferoedd dri mis yn ôl.

Yn ôl cwmni Rajar mae pobl yn gwrando ar yr orsaf ar gyfartaledd am ychydig dros 11 awr yr wythnos.

Mae hyn hanner awr yn fwy nag yn ystod y cyfnod blaenorol.

Yn ôl y ffigyrau diweddara' mae nifer gwrandawyr BBC Radio Wales yn cynyddu.

Mae bron i 480,000 o bobl yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos, cynnydd o 10,000 yn y 12 mis diwethaf.

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol