Gwrthdrawiad bwriadol gyda char heddlu

Car heddlu Image copyright bbc
Image caption Mae'r heddlu yn credu i'w car gael ei daro'n fwriadol

Mae'r heddlu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn apelio am wybodaeth wedi i gar heddlu fod mewn gwrthdrawiad nos Fawrth.

Credir fod car Skoda Octavia melyn wedi cael ei yrru'n fwriadol i mewn i gar yr heddlu ger Eglwys Sant Matthew ar Ffordd Longford, Mynachlog Nedd am 11:25pm.

Gadawodd gyrrwr y Skoda y safle ac fe'i gwelwyd yn rhedeg i ffwrdd i gyfeiriad Bryncoch.

Bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Tan ddefnyddio offer arbennig i dorri'r plismyn o'r car heddlu, ac fe'u cludwyd i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans. Roedd gan un ohonynt anaf difrifol i'w gefn.

Roedd yr heddlu wedi cael adroddiadau fod y Skoda wedi cael ei ddwyn o Lansamlet ar Hydref 23.

Y rhif ar y car yn y digwyddiad nos Fawrth oedd WU58 OVK, ond fe gafodd y platiau rhifau yna eu dwyn o ardal Pontypridd ar Hydref 22.

Mae'r heddlu hefyd yn ymchwilio i'r posibilrwydd fod y car wedi cael ei ddefnyddio mewn cyfres o ladradau yn ardaloedd Castell-nedd ac Abertawe ers y penwythnos.

Apêl

Dywedodd y Ditectif Arolygydd David Hough o heddlu Castell-nedd Port Talbot:

"Fe gafodd y Skoda ei yrru o gyffordd 43 o'r M4 ac ar hyd amryw ffyrdd yn Llandarcy, Sgiwen a Mynachlog Nedd cyn y gwrthdrawiad gyda char yr heddlu.

"Rydym yn credu fod y car wedi ei yrru'n fwriadol at gerbyd yr heddlu gan adael un plismon gydag anaf difrifol i'w gefn.

"Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld Skoda Octavia lliw melyn nodedig yn ardal Abertawe neu Gastell-nedd ar unrhyw adeg cyn y digwyddiad nos Fawrth i gysylltu â ni.

"Fe redodd y gyrrwr i ffwrdd i gyfeiriad Bryncoch, ac rydym hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr unigolyn yma i gysylltu gyda'r heddlu."

Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Heddlu'r De ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.