Caerdydd yn wyth olaf Cwpan Carling

Joe Mason Image copyright Other
Image caption Joe Mason yn dathlu ei gol

Mae Caerdydd wedi cyrraedd wyth olaf Cwpan Carling am y tro cyntaf ers 46 o flynyddoedd.

Roedd yr Adar Gleision yn fuddugol o gôl i ddim yn erbyn Burnley yn y bedwaredd rownd nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Daeth unig gôl y gêm bum munud cyn yr egwyl.

Daeth Don Cowie o hyd i Joe Mason gyda'i bas, a Mason yn rhwydo o ymyl y cwrt cosbi i gornel y rhwyd.

Roedd ergyd troed chwith y chwaraewr 20 oed yn sicr yn uchafbwynt y gêm wrth iddo grymanu ei gynnig i'r rhwyd.

Daeth cyfleoedd gorau'r ymwelwyr yn fuan wedi'r egwyl, gyda Keith Treacy a Ben Mee yn gorfodi Tom Heaton i wneud arbedion da yn y gôl i Gaerdydd.

Fe allai Mark Hudson fod wedi ymestyn mantais Caerdydd gyda 15 munud yn weddill, ond fe beniodd dros y trawst o ddwy lath o'r gôl pan oedd hi'n ymddangos yn haws i sgorio.

Er i'r ddau dîm gael cyfleoedd, felly yr arhosodd hi tan y chwiban olaf i fynd a Chaerdydd i'r rownd nesaf.

Yn ymuno a thîm Malky Mackay yn y rownd nesaf fydd Manchester United, Arsenal a Crystal Palace oedd hefyd yn fuddugol nos Fawrth.

Bydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het amser cinio ddydd Sadwrn.