Un o ASau Cymru yn mynd yn erbyn David Cameron ar Ewrop

David Davies AS Mynwy
Image caption David Davies oedd yr unig AS o Gymru i fynd yn erbyn chwip ei blaid

Fe wnaeth un o wyth Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru bleidleisio o blaid cynnal refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Cafodd y bleidlais ei disgrifio fel y gwrthryfel mwyaf erioed gan Aelodau Seneddol Ceidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin wrth i 81 o aelodau bleidleisio yn erbyn y llywodraeth.

Dyma oedd yr her fwyaf i awdurdod David Cameron ers ei ethol yn Brif Weinidog.

Ymhlith y rhai wnaeth bleidleisio yn erbyn ei brif weinidog yr oedd David Davies, Aelod Ceidwadol Mynwy.

Fe wnaeth y saith aelod arall o Gymru bleidleisio yn erbyn cynnal refferendwm.

Cafodd y cynnig ei hun ei wrthod yn bendant wrth i dros 480 o aelodau ddweud nad oedan nhw am weld refferendwm.

Bu trafodaeth yn y siambr am bum awr wedi i ddeiseb gael ei chyflwyno efo llofnod dros 100,000 o bobl.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.