Pornograffi: Gorchymyn cymunedol

Mae dyn o'r Bala wedi cael gorchymyn cymunedol am ddwy flynedd ar ôl pledio'n euog i chwe chyhuddiad o fod â phornograffi eithafol yn ei feddiant.

Bydd rhaid i Peter David Griffith, 44 oed o Riwlas, Y Bala, hefyd wneud 250 o oriau o waith di-dâl ar ôl cyfadde' i'r cyhuddiadau o dan ddeddf newydd Iawnderau Troseddol a Mewnfudo.

Clywodd ynadon yn Nolgellau ddydd Llun fod y cyhuddiadau mor newydd nad oedd 'na ganllawiau llys ynadon ar gael.

Yn ôl Alun Humphreys, ar ran yr erlyniad, roedd tri o'r cyhuddiadau yn ymwneud â 59 fideo pornograffig oedd yn cynnwys anifeiliaid a merched, dau gyhuddiad yn ymwneud â delweddau eithafol yn dangos anafiadau difrifol i rannau preifat unigolion, ac un cyhuddiad o fod â 25 o luniau eithafol.

Fe blediodd Griffith yn euog ar ôl i'r heddlu ddod o hyd i'r delweddau ar ei liniadur ym mis Mawrth eleni.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.