Oriel: Cefnogwyr Cymru yn Seland Newydd

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Roedd miloedd o gefnogwr Cymru wedi paratoi ar gyfer y gêm yn Stadiwm Eden Park yn Auckland ddydd Gwener yn erbyn Awstralia
Disgrifiad o’r llun, Ond roedd rhaid i gapten Cymru Sam Warburton wylio'r gêm o'r eisteddle ar ôl cael cerdyn coch yn y gêm flaenorol yn erbyn Ffrainc
Disgrifiad o’r llun, Roedd 'na gryn obaith ymhlith y cefnogwyr cyn y gêm y byddai Cymru yn llwyddo i ennill a gorffen yn drydydd
Disgrifiad o’r llun, Dim ots faint o waed Cymrerig oedd gan rywun roedden nhw am fod yn Stadiwm Eden Park ddydd Gwener i roi cefnogaeth i'r tîm
Disgrifiad o’r llun, Dwy yn amlwg yn falch iawn o gais Shane Williams
Disgrifiad o’r llun, Ac er bod Cymru ar ei hôl hi ar yr hanner o 7-3 roedd 'na obaith o hyd ymhlith y cefnogwyr
Disgrifiad o’r llun, Roedd rhai o'r cefnogwyr wedi mynd ati i gael gwisgoedd arbennig ar gyfer yr achlysur....
Disgrifiad o’r llun, ....o bob lliw a llun
Disgrifiad o’r llun, Llun i gofio eu bod yno ar ddiwrnod a allai fod wedi bod mor wahanol
Disgrifiad o’r llun, Ond roedd canlyniad y gêm 21-18 i Awstralia yn sicr o suddo'r galon ymhlith y cefnogwyr