Cerbyd ar gopa: Cyhuddiad arall

Y Car ger Hafod Eryri Image copyright Other
Image caption Y cerbyd ar gopa'r Wyddfa ar Fedi 29

Mae dyn 39 oed wedi ei gyhuddo eto o yrru cerbyd gyriant pedair olwyn i gopa'r Wyddfa.

Cyhuddwyd Craig Williams o Cheltenham o yrru'n beryglus wedi digwyddiad ar Fedi 3 lle cafodd cerbyd Vauxhall Frontera ei adael 400 llath o'r copa.

Ddydd Iau dywedodd Heddlu'r Gogledd fod dyn 39 oed wedi ei gyhuddo ar ôl i'r un cerbyd gael ei adael ar gopa'r Wyddfa ar Fedi 29.

Mae cyfreithiwr y diffynnydd wedi cadarnhau i'r BBC ei fod wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â'r ail ddigwyddiad.

Mae ar fechnïaeth tan Dachwedd 4 pan fydd gerbron Llys Ynadon Caernarfon.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.