Uchel Lys: Dechrau brwydr gyfreithiol
- Cyhoeddwyd

Mae 300 o gyn-weithwyr hen waith Phurnacite yng Nghwm Cynon wedi dechrau eu brwydr am iawndal yn yr Uchel Lys.
Undeb NACODS sy'n honni bod cysylltiad rhwng y safle yn Abercwmboi ger Aberpennar oedd yn cynhyrchu tanwydd di-fwg ac achosion canser a chlefydon eraill.
Hefyd mae'r undeb yn honni nad oedd cwmni Glo Prydain wedi cymryd digon o fesurau diogelwch.
Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn gwrthwynebu'r cais sy'n cael ei glywed yn yr Uchel Lys yng Nghaerdydd.
Chwe wythnos
Y disgwyl yw y bydd yr achos yn para am chwe wythnos lle bydd cyn-weithwyr yn cynnig tystiolaeth am amodau gwaith.
Yna bydd yr achos yn cael ei ohirio cyn ail-ddechrau yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yn Llundain lle bydd tystiolaeth arbenigol yn cael ei chlywed.
Cafodd y gwaith 88 erw o faint ei gau yn 1991 ac yn 2005 cafodd mwy na 120 o dunelli o wastraff a phridd llygredig eu symud o'r safle.
Yn ei hanterth roedd y ffatri yn cyflogi 1,000 o bobol.
Straeon perthnasol
- 19 Ionawr 2005
- 12 Mai 2000