Cynllun: Gwarchod 230 o gartrefi
- Cyhoeddwyd

Mae ail ran cynllun gwerth £1.4m i atal llifogydd mewn tref wedi dechrau.
Yn gynharach eleni dechreuodd peirianwyr Asiantaeth yr Amgylchedd waith ar y cynllun sy'n amddiffyn 230 o gartrefi a busnesau, ffyrdd a phontydd yn Abergele rhag y llifogydd.
Cafodd ceuffos ffordd osgoi ei hadeiladu ger y bont yn Ffordd y Morfa fel y bydai dŵr yn gwasgaru'n gyflym adeg glaw trwm.
Mae ail ran y cynllun yn cynnwys amddiffynfeydd newydd i warchod y dref os yw Afon Gele yn gorlifo.
Adleoli
Bydd peirianwyr hefyd yn ystyried y posibilrwydd o adleoli cored i fyny'r afon ger yr is-orsaf drydan yn Stryd y Farchnad.
Yn ogystal bydd amddiffynfeydd rhag llifogydd i fyny'r afon o Ffordd y Morfa yn cael eu hailadeiladu ar ddwy ochr yr afon.
Y tro diwethaf i Afon Gele orlifo oedd ym 1971.
Straeon perthnasol
- 14 Awst 2010
- 31 Mawrth 2010