Drylliau llaw: Arestio tri dyn
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn wedi eu harestio o dan y Ddeddf Drylliau yn dilyn digwyddiad yng Nghaerdydd.
Cafodd heddlu arfog eu galw ohewrydd digwyddiad yn ymwneud â dryll llaw yn Manor Way, Caerdydd, am 4.47pm ddydd Sul.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod nifer o ddrylliau ffug wedi eu canfod.
Ni chafodd neb ei anafu ac mae'r dynion 18 oed, 21 oed, a 23 oed yn y ddalfa.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol