Tân: Anafu dyn mewn iard sgrap
- Cyhoeddwyd
Mae ymladdwyr tân wedi llwyddo i ddiffodd tân mawr mewn iard sgrap ger Stadiwm Liberty yn Abertawe.
Cludwyd un person i Ysbyty Treforys gyda mân anafiadau.
Cafodd gweithdy a phedwar cerbyd eu difrodi gan y tân a ddechreuodd ar safle Pic-up-Spares tua 3.30pm ddydd Gwener.
Anfonodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ddau griw i ddiffodd y fflamau.
Cafodd rhai tai eu gwacáu ac fe gafodd Heol Siloh a Heal Castell-nedd eu cau am gyfnod.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol