Heddlu'n arestio treisiwr

  • Cyhoeddwyd
Edwin SmithFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd Edwin Smith yn euog o droseddau gafodd eu cyflawni rhwng 1985 a 2006, medd yr heddlu

Mae'r heddlu wedi dod o hyd i ddyn yr oedden nhw'n chwilio amdano ers dydd Mawrth.

Doedd Edwin Smith, 43 oed o ardal Bargoed yn Sir Caerffili, ddim wedi ymddangos yn y llys yng Nghasnewydd.

Yn ei absenoldeb fe'i cafwyd yn euog o 13 o droseddau, gan gynnwys treisio, ymosodiad rhyw difrifol ac ymosod corfforol.

Roedd y dyfarniadau'n ymwneud â throseddau ddigwyddodd rhwng 1985 a 2006, meddai'r heddlu.

Mae Smith yn y ddalfa.

Dywedodd yr heddlu eu bod am ddiolch i'r cyhoedd a'r cyfryngau am eu help.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol