Cymru 'ar eu cryfaf' i wynebu Iwerddon

Dan Lydiate a James Hook Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Cafodd Dan Lydiate a James Hook eu hanafu yn y fuddugoliaeth yn erbyn Samoa

Mae un aelodau tîm hyfforddi Cymru yn mynnu y bydd James Hook, Dan Lydiate a Shane Williams ar gael ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Byd ddydd Sadwrn.

Mynnodd yr hyfforddwr sgiliau, Rob Howley, y bydd gan Warren Gatland garfan lawn i ddewis ei 15 i wynebu'r Gwyddelod yn Wellington yn rownd yr wyth olaf.

Mae Cymru yn hyderus y bydd Sam Warburton a Jamie Roberts ar gael wedi i'r ddau adael y cae cyn diwedd y fuddugoliaeth o 66-0 yn erbyn Fiji fore Sul.

Dyw'r newyddion ddim cystal i'r Gwyddelod.

Mae 'na amheuaeth am ffitrwydd y bachwr Rory Best a gafodd anaf i'w ysgwydd yn erbyn Yr Eidal, ac mae eu bachwr arall Jerry Flannery eisoes yn gwybod na fydd yn chwarae eto yn y gystadleuaeth.

Cafodd Lydiate a Hook eu hanafu yn y fuddugoliaeth yn erbyn Samoa yn gynharach yn y gystadleuaeth, ond mae Hook eisoes wedi bod yn cymryd rhan mewn ymarfer, ac mae disgwyl i Lydiate wneud hynny ganol wythnos.

Roedd Shane Williams yn ddigon iach i wynebu Fiji, ond penderfynodd Gatland roi gorffwys iddo.

Dywedodd Warren Gatland: "Mae gennym nifer o chwaraewyr sy'n dychwelyd o anafiadau, ac mae'r garfan yn edrych yn dda ar hyn o bryd."

Bu Gatland yn hyfforddi Iwerddon am dair blynedd tan 2001.

Tabl terfynol Grŵp D

Chwaraewyd Enillwyd Pwyntiau
1. De Affrica 4 4 18
2. CYMRU 4 3 15
3. Samoa 4 2 10
4. Fiji 4 1 5
5. Namibia 4 0 0

Carfan Cymru yn llawn :-

Blaenwyr:

Ryan Bevington, Adam Jones, Paul James, Huw Bennett, Alun Wyn Jones, Ryan Jones (Gweilch), Gethin Jenkins, Bradley Davies, Sam Warburton (Gleision), Lloyd Burns, Ken Owens (Scarlets), Luke Charteris, Toby Faletau, Dan Lydiate (Dreigiau), Craig Mitchell (Caerwysg), Andy Powell (Sale Sharks);

Olwyr:

George North, Jonathan Davies, Scott Williams, Stephen Jones, Rhys Priestland, Tavis Knoyle (Scarlets), Shane Williams (Gweilch), Leigh Halfpenny, Jamie Roberts, Lloyd Williams (Gleision), Aled Brew (Dreigiau), Lee Byrne (Clermont Auvergne), James Hook (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne).

Straeon perthnasol