Port Talbot 1 Castell Nedd 2
- Cyhoeddwyd
Port Talbot 1 Castell Nedd 2
Yn unig gêm Uwchgynghrair Cymru nos Wener curodd Castell Nedd Port Talbot o ddwy gôl i un.
Mae hyn yn golygu fod Castell Nedd wedi dringo i frig yr Uwchgynghrair ac mae Port Talbot yn aros yn y seithfed safle.
Roedd Castell Nedd wedi teithio i wynebu Port Talbot.
Sasha Walters sgoriodd gôl gyntaf yr ornest ar ôl dim ond dwy funud.
Ond fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal wedi i Luke Bowen rhwydo ar ôl 26 munud cyn i gôl Paul Fowler ennill y gêm i Gastell Nedd ar ôl 64 munud.
Cafodd pump o chwaraewyr yr ymwelwyr gardiau melyn a dau o chwaraewyr Port Talbot.
Bydd y Seintiau Newydd yn dringo yn ôl i frig y tabl os llwyddan nhw i guro Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Dydd Sadwrn
Caerfyrddin v Airbus UK
Y Drenewydd v Lido Afan
Y Seintiau Newydd v Aberystwyth
Prestatyn v Llanelli
Bala v Bangor