Gweithwyr undeb Bectu BBC Cymru ar streic

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, bbc
disgrifiad o’r llunMae pedwar aelod staff BBC Cymru yn colli swyddi golygu ym maes ôl-gynhyrchu newyddion

Mae gweithwyr undeb Bectu BBC Cymru yn cynnal streic undydd ddydd Gwener.

Mae'r undeb yn protestio am fod pedwar aelod staff o fewn y BBC yn colli swyddi golygu ym maes ôl-gynhyrchu newyddion.

Yn ôl yr undeb mae'r BBC wedi "gwrthod pob cais i adleoli ein haelodau".

Ond yn ôl llefarydd ar ran y BBC: "O ystyried record dda'r BBC o adleoli cymaint â phosib o staff, rydym yn siomedig fod Bectu wedi dewis gweithredu.

"Hoffem ymddiheuro i'n cynulleidfa am unrhyw anghyfleustra a achosir oherwydd hyn.

"Rydym yn ymroddedig i weithio gyda'r holl unigolion hynny sy'n wynebu diswyddiadau mewn ymdrech i ganfod gwaith arall."

Ym mis Gorffennaf, bu aelodau o undeb yr NUJ yn BBC Cymru yn cymryd rhan mewn streic oherwydd diswyddiadau.

Straeon perthnasol

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol