Cerbyd aeth i gopa'r Wyddfa ar werth ar eBay

Cerbyd ar Yr Wyddfa Image copyright BBC news grab
Image caption Cafodd y Vauxhall Frontera ei gludo i lawr o'r copa gan Reilffordd yr Wyddfa

Mae cerbyd gyriant pedair olwyn, gafodd ei yrru i gopa'r Wyddfa, yn cael ei werthu ar wefan eBay gyda'r perchennog yn addo rhoi'r arian i elusen.

Dywedodd y byddai'r arian sy'n cael ei dalu am y Vauxhall Frontera yn cael ei roi i Dimau Achub Mynydd Dyffryn Ogwen a Llanberis.

O dan yr enw Trusty mae'r disgrifiad o'r cerbyd ar eBay yn dweud: "gall y cerbyd hwn fynd i unman 'dach chi'n anelu amdano - yn llythrennol".

Bydd Craig Williams, 39 oed o Sir Gaerloyw, yn yn y llys fis nesa' mewn cysylltiad â gyrru'r cerbyd ar dir comin, rhostir neu dir oddi ar y ffordd fawr.

Mae hi'n erbyn y rheolau i yrru cerbydau o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mae'r gwaharddiad wedi'i gyflwyno ers i'r parc gael ei sefydlu yn 1951.

Gwyntoedd

Cafodd y cerbyd ei yrru o fewn ychydig gannoedd o fetrau o gopa mynydd ucha' Cymru ddechrau mis Medi cyn i wyntoedd cryfion orfodi'r gyrrwr i adael y car.

Cafodd y cerbyd ei gludo lawr gan Reilffordd yr Wyddfa ar ôl i'r tywydd wella ar gopa'r mynydd 1,085 metr (3,560 troedfedd) o uchder.

Dywedodd Chris Lloyd, o Achub Mynydd Dyffryn Ogwen: "Rydym yn falch pan mae pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan wirfoddolwyr ar dimau achub mynydd trwy'r DU.

"Tra ein bod yn croesawu unrhyw rodd ... fydden ni byth yn annog unrhyw un i yrru cerbyd i fyny i'r mynyddoedd a bydden ni'n gobeithio y bydd pwy bynnag wnaiff brynu'r cerbyd yn ei ddefnyddio'n gall."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.