bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd


A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd

» Adloniant
Ffilm
Llais Llên
Radio Cymru
Sîn Roc
Teledu
Theatr
Y Sêr
Ffeil

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llanelli 2000 Tro i'r Sosban

Anrhydedd o wlad bell i broffwyd yn ei wlad ei hun
.

Dyddiadur dydd Iau gan Glyn Evans

Yr oedd yn olygfa llawn emosiwn gyda dagrau yn llygaid sawl un wrth i Gwynfor Evans dderbyn gwobr ryngwladol am ei gyfraniad fel Cymro yn un o eisteddfodau sir a roddodd gymaint o gysur ac o boen iddo yn ystod ei yrfa faith fel gwleidydd.

Gwynfor EvansYr oedd ar y llwyfan i dderbyn gan yr Archdderwydd dlws gwobr newydd, Cymry’r Cyfanfyd.

Nid gwobr steddfodol mo hon ond un a sefydlwyd gan Arturo Roberts - o Batagonia yn wreiddiol ond yn awr yn byw yn yr Unol Daleithiau lle mae’n golygu yn ei amser hamdden y papur Cymreig, Ninnau.

Yn or-or-wyr i Michael D. Jones, arloesydd pennaf y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, dywedodd y Dr Roberts mai pwrpas yr anrhydedd yw gwobrwyo "oes o waith a delfrydau am Gymru".

Gwelai rhai hi’n chwithig mai o’r Unol Daleithiau y daeth y wobr hon i Gwynfor Evans yn hytrach nag oddi wrth rhyw sefydliad yng Nghymru.

Bydd rhai yn cael ei hystyried am y wobr yn flynyddol o hyn ond dim ond pan fydd rhywun yn deilwng ohoni y bydd yn cael ei dyfarnu.

Dewiswyd Gwynfor Evans i fod y derbynnydd cyntaf wedi i’r Dr Roberts a Henry Jones-Davies, golygydd y cylchgrawn, Cambria, ymgynghori a nifer o gymdeithasau ar hyd a lled y byd.

"Mae’r anrhydedd yn arwydd bychan ac yn gydnabyddiaeth a diolchgarwch i Gwynfor am gysegru ei fywyd yn ddiflino i ymdrech amyneddgar a gwaraidd dros barhad y genedl, yn aml yn wyneb difaterwch neu gamddealltwriaeth neu hyd yn oed wrthwynebiad," meddai Dr Roberts.

Erbyn dyfarnu’r wobr nesaf dywedodd y bydd pwyllgor swyddogol wedi ei sefydlu i bwyso a mesur ymgeiswyr.

Yr oedd ymdeimlad o hynafgwr mwyn ac annwyl yn ymddangos unwaith eto gerbron ei bobl yn y seremoni ar lwyfan y Brifwyl bnawn Iau.

A neges galonogol o hyder yn y dyfodol oedd gan y proffwyd sydd wedi encilio ers rhai blynyddoedd bellach.

"Mae posibilrwydd, yn wir, mae mwy na phosibilrwydd o ystyried cyfoeth talent y Cymry, y bydd bywyd y genedl yn y dyfodol yn ddisgleiriach na dim a welodd yn ei gorffennol hir," meddai wrth gymharu pa mor "druenus" oedd y bywyd cenedlaethol ddwy genhedlaeth yn ôl o’i gymharu â’r hyn yw heddiw.

"Nid gormod yw dweud ei fod bryd hynny mewn perygl darfod amdano. Roedd taeogrwydd yn diberfeddu’r genedl.Prin iawn oedd y Cymry oedd yn deyrngar i’w gwlad," meddai.

Ond ychwanegodd: "Ond heddiw gwelwn arwyddion ymadferiad ar bob llaw. Mae ugeiniau o filoedd bellach yn rhoi Cymru gyntaf. Arwydd o’r newid sylfaenol hwn yw’r miloedd sy’n bwriadu gwrthod llanw ffurflen census sarhaus."

Dros yr iaith ar y paith

Y geiriau ar grysau T a fu ar werth ym mhabell Cymru Ariannin gydol yr wythnos hon yw, "Dros y paith yr iaith ar waith."

Erbyn bore Iau yr oedd merch ifanc o’r enw Sandra de Pol yn arwydd gweledol o’r ffaith honno wrth gael ei anrhydeddu yn Ddysgwr y Flwyddyn.

Er nad oes dafn o waed Cymreig yn Sandra, a’i bod yn byw wyth mil o filltiroedd o Gymru, aeth ati nid yn unig i ddysgu Cymraeg ei hun ond i ddysgu Cymraeg i’w merch unarddeg oed, Azul, ac i rai eraill yn y Wladfa.

Ar unrhyw gyfrif y mae camp y ferch ifanc hynaws o La Plata - ond sy’n awr yn byw yn Nhrefelin yng Nghwm Hyfryd wrth droed yr Andes - yn un fawr.

Dechreuodd ddysgu yn nosbarthiadau Hazel Charles Evans a dreuliodd gyfnod yn athrawes yn Nhrefelin ac Esquel.

Dywedodd Sandra ei bod yn hanfodol i drigolion Patagonia ddeall Cymraeg os ydyn nhw am adnabod eu hunain yn iawn a deall pwy ydyn nhw.

"Dydy pobl Ariannin ddim yn gwybod digon am yr ‘antur Gymraeg’ ym Mhatagonia a dyma y rheswm gorau i mi ddechrau dysgu’r iaith. Mae Ariannin wedi cael lot o ddylanwadau o bob rhan o’r byd ond lle dw i’n byw dim ond o Gymru tan hanner y ganrif ddiwethaf. Felly, mae’n bwysig iawn i’r plant wybod a mwynhau hanes a diwylliant eu perthnasau," meddai.

Y mae hi ei hun o dras Eidalaidd a’i hiaith gyntaf yw Sbaeneg.

Athrawes yw hi wrth ei gwaith bob dydd ac yn ystod ei horiau hamdden y mae’n un o olygyddion papur Cymraeg, Llais yr Andes.

"Mae’r iaith Gymraeg wedi agor drws i fywyd newydd i mi," meddai Sandra a fu’n cyflwyno eitemau o eisteddfod y Wladfa ar y radio ac yn un o gyflwynwyr rhaglen geisiadau rhwng Cymru a Phatagonia.

Iaith maes
Tra’r oedd gwaith gyda’r iaith ym Mhatagonia yn cael ei wobrwyo yr oedd defnydd o’r iaith anghywir yn dod dan yr ordd ar faes yr Eisteddfod wrth i gwynion gynyddu fod Saesneg yn cael ei defnyddio ar y Maes.

Yn arwyddocaol ym mhabell y llysoedd cyfreithiol y torrwyd y ddeddf iaith gyntaf a dywedodd cyfarwyddwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, y bydd ef yn sgrifennu at ddeiliaid y babell i gwyno.

Ond ar faes mor fawr dywedodd ei bod yn amhosib plismona yn drwyadl bob defnydd o iaith a gwneud yn siwr fod pob stondinwr yn cadw at gytundeb a arwyddir gan bawb.

 

Safle swyddogol yr Eisteddfod
http://www.eisteddfod.org.uk/

Y canlyniadau Diweddaraf o'r Maes
http://www.eisteddfod.org.uk/
[an error occurred while processing this directive]


Steddfod Llanelli 2000

Tro i'r Sosban -adroddiadau o'r Eisteddfod
Llunelli - lluniau yn syth o faes y brifwyl
Tref y Sosban - hanes tre'r Eisteddfod
Llanelli ar y we - ymwelwch â'r Fro arlein

Llanelli 2000
[an error occurred while processing this directive]
Chwaraewch
Ydych chi'n gêm?
Profwch eich hun gyda gemau, cwisiau a chystadlaethau

Chwaraewch
BBC
© MM