|  |
 Cenedl
Newydd

Neuadd Caerfyrddin wedi i Gwynfor Evans ennill yr etholiad Y daith tuag at Gynulliad Cymreig:
hanner cyntaf yr 20fed ganrif Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd wrth i’r
20fed ganrif ddod i ben. Ar lawer cyfrif mae’n ddigwyddiad annisgwyl
oherwydd am y rhan helaethaf o’r ganrif ystyrid bod y rhai oedd yn
credu y deuai’r fath sefydliad i fodolaeth yn freuddwydwyr anymarferol.
Er
mae’n rhaid cydnabod bod y pwnc yn cael rhywfaint o sylw yn negawdau
cynta’r ganrif, gan fod yna yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr amryw sy’n
frwd dros hunanlywodraeth, ac mae’r Blaid Lafur yn mabwysiadu’r polisi
‘Home Rule All Round’. Ond yn y 1920au mae diddordeb y Rhyddfrydwyr
yn pylu wrth iddynt sylweddoli na fyddent yn rheoli Senedd Gymreig
pe bai un yn dod i fodolaeth.
Yn wyneb y dirwasgiad mae’r Blaid Lafur yn dod i gredu mai cynllunio
effeithiol o’r canol yw’r ateb i broblemau economaidd, ac maent yn
dadlau y byddai datganoli yn tanseilio undod y dosbarth gweithiol
ym Mhrydain. Nid yw datganoli mor bwysig ar ôl rhoi hunanlywodraeth
lawn i Iwerddon yn 1922. Pan
sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 mae llawer o gefnogwyr
hunanlywodraeth, a fyddai o bosib wedi cael eu clywed o fewn y pleidiau
traddodiadol, bellach o fewn plaid newydd a heb fawr o ddylanwad.
Hefyd, nid yw daliadau traddodiadol yr arweinydd, Saunders Lewis,
yn adlewyrchu barn mwyafrif y bobl. Ond mae’r blaid yn cael cyhoeddusrwydd
a mesur o gefnogaeth o ganlyniad i ymosodiad ei harweinwyr ar yr Ysgol
Fomio ym Mhenyberth yn Llyn yn 1936. Mae’r Ail Ryfel Byd fel y Cyntaf
yn cryfhau’r ymwybyddiaeth o bobl Prydain yn cydymdrechu a chyd-ddioddef.
Mae’r llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1945 a’i bryd ar lywodraethu
o’r canol, ac mae ei haelod mwyaf carismataidd, Aneurin Bevan, yn
ddirmygus o ildio dim i genedlaetholdeb Cymreig.
Y daith tuag at Gynulliad Cymreig;
ail hanner yr 20fed ganrif. Yn y 1950au mae’r farn yn newid. Daeth dyddiau’r Ymerodraeth i
ben gan newid un o hanfodion Prydeindod; daeth pobl i weld bod Cymru
ar ei hol hi’n economaidd o’i gymharu â de-ddwyrain Lloegr a rhai
o wladwriaethau llai Ewrop; mae’r Ceidwadwyr yn ennill un etholiad
ar ôl y llall gan awgrymu mai dim ond trwy hunanlywodraeth y byddai
Cymru’n cael ei llywodraethu gan bobl yn adlewyrchu barn mwyafrif
yr etholwyr Cymreig; boddwyd Cwm Tryweryn er nad oedd yr un aelod
seneddol Cymreig wedi pleidleisio dros hynny, gan ddangos bod y Cymry
yn wleidyddol ddi-rym. Dyma rai o’r ffactorau sy’n rhoi i Blaid Cymru
bleidlais barchus yn etholiad cyffredinol 1959. Yn yr etholiad yna
safodd y blaid mewn 55% o’r etholaethau o’i gymharu â 7% y Blaid Genedlaethol
yn yr Alban. Yn rhannol, oherwydd bygythiad y cenedlaetholwyr, mae’r
Blaid Lafur a etholwyd yn 1964 yn sefydlu’r Swyddfa Gymreig ac yn
penodi ysgrifennydd gwladol dros Gymru.
Daeth
moment fawr Plaid Cymru yn 1966 pan enillodd y llywydd, Gwynfor Evans,
is-etholiad Caerfyrddin. Daeth rhagor o lwyddiant o 1974 ymlaen, ac
erbyn 1992 mae Plaid Cymru yn cynrychioli pedair o’r deugain etholaeth
yng Nghymru. Datblygiad arwyddocaol hefyd yw’r newid o fewn y Blaid
Lafur. Mae Prydain yn ymuno â’r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd yn 1972,
sy’n golygu edrych o’r newydd ar natur llywodraeth ar bob lefel. Mae
llwyddiant sustem ddatganoledig yr Almaen a llwyddiant economaidd
Iwerddon yn dangos nad oes rhaid wrth wladwriaeth boblog i sicrhau
sefydlogrwydd a ffyniant. Mae’r holl gyfoeth a’r grym sydd yn Llundain
yn dechrau cael sylw yn Lloegr yn ogystal â Chymru a’r Alban. Y mae’r
ystyriaethau hyn, ynghyd â’r angen i atal cynnydd y pleidiau cenedlaethol
yng Nghymru a’r Alban yn gorfodi Llywodraeth Lafur 1974-79 i roi cryn
sylw i ddatganoli. Ond mae’r cynulliad sy’n cael ei gynnig yn refferendwm
1979 yn cael ei wrthod o 956,330 o bleidleisiau i 243,048.
Yn
y blynyddoedd yn union wedi’r refferendwm mae datganoli, ar yr wyneb,
yn bwnc marw. Ond yna mae polisïau adain dde y blynyddoedd Thatcheraidd
yn atgoffa pobl Cymru eu bod yn gorfod byw â syniadau gwleidyddol
sy’n annerbyniol iddynt. Mae rhoi swydd yr ysgrifennydd gwladol i
bobl o’r tu allan i Gymru – John Redwood yn fwyaf arbennig – yn cadw’r
ddadl yn fyw. Ac mae’r pwerau newydd sy’n cael eu rhoi i’r Swyddfa
Gymreig yn gwneud i bobl ddechrau meddwl o ddifrif y gall Cymru gael
ei llywodraeth ei hunan. Mae llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1997
– ac yn yr etholiad ni chafodd yr un Ceidwadwr ei ethol yng Nghymru
– yn cynnig ail refferendwm yn 1997. Pleidleisiodd 559,419 dros Gynulliad
i Gymru a 552,698 yn erbyn. Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn
1999 i ddewis trigain o aelodau, yn rhannol o dan y drefn cynrychiolaeth
gyfrannol, enillodd y Blaid Lafur 28 o seddau, Plaid Cymru 17, y Ceidwadwyr
9 a’r Democratiaid Rhyddfrydol 6.
|
 |

|
 © MM
|
|
|
|
|