Yng nghesail y moelydd unig,
Cwm tecaf y cymoedd yw -
Cynefin y carlwm a'r cadno
A hendref yr hebog a'i ryw:
Ni feddaf led troed ohono,
Na chymaint a dafad na chi;
Ond byddaf yn teimlo fin nos wrth fy nhân
Mai arglwydd y cwm ydwyf fi.
Hoff gennyf fy mwthyn uncorn
A weli'n y ceunant draw,
A'r gwyngalch fel od ar ei bared,
A Ilwyni y llus ar bob llaw:
Os isel yw'r drws i fynd iddo,
Mae beunydd a byth led y pen :
A thincial eu clychau ar bwys y tŷ,
bob tymor, mae dwyffrwd wen.
Os af fi ar ambell ddygwyl
Am dro i gyffniau'r dref,
Ymwrando y byddaf fi yno
Am grawc, a chwibanogl a bref,-
Hiraethu am weled y moelydd,
A'r asur fel mor uwch fy mhen
A chlywed y migwyn dan wadn fy nhroed,
A throi 'mysg fy mhlant a Gwen.
Mi garaf hen gwm fy maboed
Tra medraf fi garu dim;
Mae ef a'i lechweddi'n myned
O hyd yn fwy annwyl im :
A byddaf yn gofyn bob gwawrddydd,
A'm troed ar y talgrib lle tyr
Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws?
A bywyd hen fugail mor fyr? Eifion Wyn (1867 - 1926)
 |