BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanw Llyn
Eirlys Parry Eirlys Parry
Medi 2006
Lle maen nhw rŵan?
Byddaf yn deffro bob bore yng Ngherrig Gleision - nid yr un sydd ar draeth Morfa Nefyn, ond y tŷ sy'n gartref imi yng Nghaerdydd!
Cefais fy magu yn Sŵn y Môr, Morfa Nefyn: cartref cariadus o fewn tafliad carreg i'r traeth. Dach chi'n siŵr o gofio fy rhieni'n iawn: John a Mary Parry.

Dyma fy milltir sgwâr, fy maes chwarae, lle roeddwn yn chwilio am grancod ac yn treulio hafau'n nofio, hwylio, a deifio i waelod y mor ym mae Cwt Leiffbot. Dyddiau dedwydd oedd y rhain, yng nghwmni Jennifer Ardwyn, Sandra Ben Nevis a Beryl Siop. Dyddiau hirfelyn tesog oedd yn para am byth ... gan fod yr hafau'n hirach ac yn boethach bryd hynny - neu o leia' yn teimlo felly!

Es i Ysgol Gynradd Edern gyda fy ffrind Mary Terfyn. Byddai'r ddwy ohonom yn beicio neu'n cerdded i'r ysgol yn yr haf gan sgwrsio a chasglu dail ceiniog o'r cloddiau. Roeddwn yn meddwl y byd o'm hathrawes, Mrs Griffiths, Bryn Coch Morfa Nefyn. Fe'm dysgodd i am ryfeddodau gwledydd pell, ac i fwynhau ysgrifennu storis, actio, canu a pheintio. Ond yno hefyd yr oeddwn yn cael poen bol bob dydd Gwener pan fyddai'r prifathro yn rhoi pawb mewn rhesi Mathemateg, yn ôl canlyniadau gwaith yr wythnos!! Dal y gynffon fyddwn i'n amlach na pheidio!

Anodd oedd gweld fy ffrindiau'n mynd am Ysgol Botwnnog, a finna' (oherwydd rhesymau daearyddol) yn gorfod dal bws i Bwllheli a cherdded yr allt i'r Ysgol Ramadeg. Wedi dweud hynny, cefais flynyddoedd hapus yno gydag athrawon talentog a ffrindiau llawen. Dysgodd Eric Williams, yr athro Cerdd, imi ganu unawdau a dal fy ngwynt yn y lle iawn!

Cefais gyfle i actio yn nramâu Wil Sam gyda'i frawd Elis Gwyn, a chael fy swcro i ysgrifennu gan Beti Japheth. Bu Wenna Huws, a fu farw'n llawer rhy gynnar, yn dysgu Jean Madryn Isaf a finna' i ganu deuawdau ac i gystadlu. Gwisgais sash tîm cyntaf hoci Bethan Ogwen gyda balchder, a threulio Sadyrnau gwyntog yn trio trechu genod Port a Chaernarfon mewn sgert plîts a blwmers winsiét gwyrdd!!

Treulio dyddiau gwerthfawr gyda fy Yncl Elwyn yn dysgu dreifio a cherdded, a chael te bach wedyn gyda Nan Nan. Roedd eu drws bob amser yn agored a'r peaches tun ac ideal milk gyda'r gora' yn y byd!

Gadael cartref wedyn a mynd i Goleg y Drindod Caerfyrddin i astudio Cymraeg a Drama gyda phobl fel Nora lsaac a Carwyn James. Dechrau mwynhau dysgu plant ar ymarfer dysgu yn Llandudoch, Llanelli ac Ysgol y Dderwen Caerfyrddin. Dechrau cyfansoddi caneuon i gyfeiliant medrus Hywel Evans a recordio 'Pedwar Gwynt' ym mharlwr Harri Parri a Gareth Maelor ym Mhorthmadog. Cymryd rhan yn y rhaglenni 'Disc a Dawn' ar y teledu. Teithio Cymru i ganu yng nghyngherddau'r Pinaclau Pop: dyddiau difyr iawn!

Dechrau fy swydd gyntaf wedyn fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Heol Gaer, Fflint. Mi briodais Geraint a symud i bentref gwledig y Parc ger y Bala, lle ganwyd ein genod, Lois ac Esther. Collais Mam yn ystod y cyfnod yma, ond anghofia'i fyth am garedigrwydd teulu a ffrindiau - a chefnogaeth pobl Morfa Nefyn mewn dyddiau anodd iawn.

Dechreuais ganu unwaith eto mewn cyngherddau dros Gymru a chael y cyfle i actio Mrs Noa gyda Theatr Cymru. Gweithio ar 'Codi Pais' wedyn yn HTV, a chodi aeliau'r un pryd! Teithio i Fanceinion i recordio cyfresi canu fy hun, a mwynhau pob eiliad o'r cyfnod cyffrous yma.

Dechreuodd cyfnod newydd inni fel teulu pan ddaethom i fyw i Gaerdydd. Es yn ôl i'r coleg i wneud cwrs dau ddiwrnod yr wythnos ar Gysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Roedd arna' i eisiau newid cyfeiriad gan 'mod i'n synhwyro na fyddai'r canu'n para am byth!

Collais Dad tua'r amser yma, ac roedd y genod yn colli Taid. Roedd o'n dipyn o gymeriad ac yn meddwl y byd o'i fro.

Treuliais gyfnod yn Adran Cysylltiadau Cyhoeddus S4C wedyn yn trefnu digwyddiadau'r sianel, yng Nghymru ac ar y Cyfandir. Swydd ddiddorol mewn cyfnod pan oedd S4C yn lledu ei hadenydd i ddenu nawdd a chefnogwyr newydd.

Ar ôl hynny dychwelyd i fyd addysg, gan fod Lois ac Esther bellach yn ddisgyblion yn yr ysgol uwchradd. Dechreuais ddysgu yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, cyn mynd i Ysgol Castellau, y Beddau. ''It's not the winning but the taking part" oedd slogan yr ysgolion yma cyn gornestau'r Urdd! Hwyrach bod 'na wers yno i ni i gyd!

Roedd hi'n fraint cydweithio gyda rhieni brwd dros y Gymraeg oedd yn awyddus i'w plant siarad yr iaith ar ôl i genhedlaeth ei cholli yn y Cymoedd.

Erbyn hyn rwy'n gweithio fel Athrawes Ymgynghorol i Awdurdod Addysg Caerdydd. Byddaf yn darparu cyrsiau athrawon, hyfforddi, cefnogi'r ysgolion a'r athrawon ac yn paratoi adnoddau a chyfarpar. Mae'n hyfryd gweld y cynnydd a'r brwdfrydedd sydd yn ysgolion Cymraeg y brifddinas. 'Dw i'n teimlo 'mod i wedi cael y swydd ddelfrydol.

Mae fy mywyd yn llawn iawn gyda fy nheulu o'm cwmpas, a dau fachgen rhadlon, Sion Aron, gwr Esther ac Edward, partner Lois, yn cyfoethogi'r cyfan.

A sôn am swyddi ... mae gen i joban arall rŵan! Swydd hynod gyfrifol sy'n gofyn am gymwysterau go arbennig: newid clytiau, gwthio pram, cerdded parciau, canu, gwarchod a bod yn amyneddgar iawn! Ydach chi wedi dyfalu? Wel, ia siŵr iawn: dw i'n NAIN! Ydw ers mis, i Evan Wyn!

Byddaf yn edrych ymlaen at yr haf bob blwyddyn er mwyn cael aros ym Mhen Llŷn gyda fy nghyfnitherod egnïol, Gwenan, Rhian a Iola. Caf fynd am dro i fae Cwt Leiffbot a hwyrach y daw cyfle i ddangos y Cerrig Gleision go iawn i Evan Wyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy