BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Llanw Llyn
Robyn Léwis yng ngwisg yr Archdderwydd Y Llob "Scouse"
Ebrill 2005
Bágad Bargyfreithiwr gan Robyn Léwis
O bryd i'w gilydd fe fu ffraeo - hyd at bwdu - ynghylch lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol.
A'r mwyafrif yn edrych ymlaen at Brifwyl Eryri a'r Cyffiniau yn y Faenol, deilcryn nifer ohonom i gredu mai gwell fyddai bod wedi ei chynnal ym Mharc Glynllifon. Glynllifon fyddai orau gen innau hefyd, ac nid yn unig oherwydd y ffaith y medrwn gyrraedd y Maes o'r tŷ yma o fewn cwta hanner awr.

A minnau'n Archdderwydd, fe fûm yn hynod anlwcus fy lleoliadau y teirgwaith y bûm yn gweinyddu'r swydd, gan fod Tyddewi a Chasnewydd cyn belled ag y medrwch chi fod o Nefyn 'ma a dal yng Nghymru. Tra bo Meifod cyn belled ag y gall dyn fynd a dal yn y gogledd. Fe fyddai'r Faenol wedi fy siwtio i'n iawn - a Glynllifon wedi fy siwtio'n well fyth.

Ond nid dyna sydd gen i chwaith. Mân-gecru ydi dadlau fel yna, a dweud y gwir: Cymru yw Cymru, a'r gogledd yw'r gogledd - felly peidiwn â bod yn blwyfol. Eisiau sôn yr ydw i am y bwriad ynfyd (wel, ynfyd i'm tŷb i) sydd wedi codi'i ben i fynd â Phrifwyl 2007 i Lerpwl - neu "Llynlleifiad" os gwell gennych yr hen ffurf Fictorianaidd, anghofiedig ar enw'r lle.

Poster Eisteddfod Lerpwl 1929Fe fu'r Brifwyl yn Lloegr, droeon. Caer ym 1866; Llundain ym 1887 a 1909; Penbedw ym 1879 a 1917; a Lerpwl ym 1884, 1900 a 1929.

Digwyddodd hanesion rhyfedd a grotèsg yn ambell un o'r rheini - er mai nodwedd drwgenwocaf a thristaf yr holl eisteddfodau tu-hwnt-i'r-ffin hyn, wrth gwrs, ydoedd Cadair Ddu Hedd Wyn ym 1917, a ddaeth yn rhan o hanes a chwedloniaeth ein cenedl.

Er enghraifft, yng Nghaer ym 1866 mynegwyd pryder bod yr Ŵyl yn or-Seisnig. Yr oedd Sgrôl y Cyhoeddi, hyd yn oed, wedi'i ddarllen yn Saesneg, ac atgoffodd y Llywydd, Syr Watkin Williams Wynn bawb (yn Saesneg) fod yr ymgiprys rhwng y Cymry a'r Saesondrosodd "am byth". Ac yn ei lythyr ymddiheuro, dywedodd Cadeirydd y Cyngor, Y Parch John Griffiths, serch ei fod yn glynu'n arw at yr hen iaith "ni fedraf gydymdeimlo â'r rhai hynny a fyddai yn cau allan o bob elw a mwynhad y rhai nad ydynt yn ei deall" - hynny yw: "Owyr Inglish ffrends". A phan gynhaliwyd hi yn Lerpwl ym 1884 a chadeirio Dyfed am awdl goffa i Gwilym Hiraethog, Cân y Cadeirio oedd Far Greater in His Lowly State, gan Gounod.

Ym 1877 yr oedd wedi ei chynnal yn Llundain, a Gorsedd Gyhoeddi wedi'i chynnal y flwyddyn cynt. Cyn y seremoni, cynhaliwyd gwledd fawreddog yn y Freemason's Tavern, dan lywyddiaeth yr Archdderwydd Clwydfardd. Cafwyd wyth llwncdestun, sef: 1. Y Frenhines Victoria; 2. Cymru Fu; 3. Cymru Fydd; 4. Gorsedd y Beirdd; 5. Eisteddfod Llundain; 6. Pulpudau Cymru; 7. Y Wasg; ac 8. Y Llywydd a'r Boneddigesau. Ni chofnodir pa siâp oedd ar y Gorseddogion ar ôl cynifer o lwncdestunau!

Testun Awdl yr Eisteddfod honno oedd "Y Frenhines Victoria" - am wobr o £40, bathodyn aur, a chadair dderw. Yr oedd y Rhaglen yn uniaith Saesneg, serch y cynhaliwyd defodau'r Orsedd yn Gymraeg.

Pan aeth i Lundain drachefn, ym 1909, cymerwyd y Rheol Gymraeg yn llythrennol lle'r oedd y Rhaglen dan sylw. Troswyd "in the Inner Temple Hall off Fleet Street in the City of London" yn ''yn Neuadd y Deml Fewnol allan o Heol y Chwernant yn Ninas Caerludd" ond roedd y gweithgareddau, yn Neuadd Albert am yr eilwaith, yn ddigon Seisnigaidd. Llywyddion y Dydd, ar wahân i Lloyd George, oedd A. J. Balfour a'r Prif Weinidog, H. H. Asquith.

Pan fu hi ddiwethaf yn Lerpwl ym 1929, yr Archdderwydd oedd Pedrog (John Owen Williams), a anwyd yn y Gatws, Castell Madryn, ond a oedd ar y pryd yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Lerpwl. Trwy gyd-ddigwyddiad, Pedrog oedd wedi cipio'r Gadair pan fu'r Brifwyl yn Lerpwl y tro cyn hynny, ym 1900 am ei awdl "Y Bugail".

Agorwyd y Steddfod honno mewn gorsedd a gynhaliwyd yng Ngerddi Whitley. Ar flaen yr orymdaith roedd Seindorf y Llong Ryfel Indefatigable. Wedi i Hwfa Môn ddarllen y sgrôl cafwyd anerchiad, yn Saesneg, gan Lydawr, Lionel Radiguet. Anerchwyd hefyd gan Arglwydd Mostyn. Dau a urddwyd i'r Orsedd, sef Maer a Maeres Lerpwl, Louis H. Cohen a'i briod, May (fel Cohenydd a Mai Cohen).

Ym 1929 urddwyd Maer a Maeres Lerpwl i'r Orsedd hefyd. Fel mater o ddiddordeb, yma y cipiodd Caradog Prichard ei drydedd Coron (yn olynol), a Dewi Emrys ei Gadair gyntaf.

A dyma'r rhod wedi troi, a ninnau bellach yn clywed sôn am fynd a'r Brifwyl yn ôl i Lerpwl yn 2007. Fy hunan, yr wyf yn gadarn yn erbyn hynny, am ddau reswm, sef: 1. Na ddylid byth ei chynnal eto oddi allan i Gymru, a 2. Y rheswm arall, a fynegaf mewn dau air: COFIWCH DRYWERYN!

Dywedaf yn groyw a diamwys: os mai yn Lerpwl y cynhelir hi, yna (serch na chollais Brifwyl ers blynyddoedd lawer) ni fyddaf yn hon. Gwell gennyf fyddai gweld peidio â'i chynnal, na'i chynnal yn Lerpwl. Gwn am lawer o rai eraill sydd o'r un teithi meddwl a mi yn y mater.

Yn ddiweddar sgrifennwyd llythyr at nifer o swyddogion Cyngor yr Eisteddfod gan Roderick Owen, CadeiryddCymdeithas Cymry Lerpwl, a oedd hefyd yn datgan barn unfrydol Cymdeithas Gymraeg Penbedw. Mae'n sôn am y pryder a deimlir ganddynt os â'r bwriad rhagddo. Mae diogelwch a thrafnidiaeth yn broblemau hunllefus erbyn hyn, a thagfeydd traffig diddiwedd, heb sôn am y ddau dwnnel. Mae cymdeithasau'r Cymry wedi edwino, ac yn heneiddio, fel nad oes digon ohonynt i fedru cynnal eisteddfod leol ers rhai blynyddoedd, heb sôn am y Genedlaethol. Ymddengys nad oedd neb wedi gweld yn dda i roi gwybod iddynt y bwriedid ceisio bwrw'r syniad yn ei flaen.

Cefais innau brofiad chwithig a doniol yn y cyswllt yma. Bu Radio Merseyside ar y ffôn yn gofyn imi restru'r rhesymau yn erbyn cynnal y Brifwyl yn eu dinas. Yn pledio'r achos yr oedd un o swyddogion Dinas Lerpwl, Sais uniaith, heb unrhyw wybodaeth am Gymru, y Gymraeg na'r Eisteddfod.

Gofynnodd yn ddiniwed: "It doesn't all have to be held in Welsh, does it?". Ychydig yn ddiweddarach yn y sgwrs, soniais am Dryweryn a boddi Capel Celyn: nid oedd erioed wedi clywed am y fath ddigwyddiad. Yn wir, aeth ei anwybodaeth ymhellach, ac meddai: "You must have your facts wrong. The City of Liverpool would never allow itself to be associated with that sort of oppressive behaviour".

Ar ôl adwaith mor ddadlennol a hynna, pa ryfedd 'mod i'n meddwl am y gŵr hwnnw - ac eraill tebyg iddo - fel "Y Llob Scouse"?

Robyn Léwis (Robyn Llŷn)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy