Pam cynnal Clonc Cwpan y Byd?
Mae pêl-droed yn un o'r ieithoedd gwirioneddol fyd-eang. Ble bynnag yr ewch, mae cefnogwyr pêl-droed wrth eu bodd yn siarad am eu timau a'r chwaraewyr rhyngwladol mawr.
Fel rhan o sylw'r BBC i Gwpan y Byd, ry'n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.
Mae rhai o'n prif wasanaethau iaith yn dod at ei gilydd i gynnal sgwrs yn seiliedig ar gemau agoriadol a therfynol Cwpan y Byd.
Bydd y digwyddiad yn defnyddio cyfieithu peiriant awtomatig. Bydd sylwadau a gyhoeddir mewn un iaith yn ymddangos yn y 10 arall.
Mae hyn yn dilyn ein harbrawf Superpower Nation Day, a ddaeth â phobl o bob rhan o'r byd at ei gilydd i weld a allai cyfieithu peiriant ddileu rhwystrau iaith. Y tro hwn, ry'n ni wedi ychwanegu'r gallu i weld yr atebion i'ch negeseuon ac i weld pa negeseuon y mae'r tîm yn ei feddwl yw'r gorau.
Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o'r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo'u mamiaith.
Ein nod yw galluogi pobl i weld, clywed a darllen yr hyn mae cefnogwyr pêl-droed o wahanol rannau o'r byd yn ei drafod, ac i allu dilyn y sgyrsiau hynny.
Efallai na fydd yn gweithio'n rhy dda. Gall fod yn fwy o ddryswch na dim arall. Efallai y bydd yn rhaid rhoi'r gorau iddi a dechrau eto – fel sy'n gallu digwydd gydag unrhyw sgwrs.
Yr hyn sydd gennym, fodd bynnag, yw rheolau mewnol ar beidio â thramgwyddo neb.
Y cyfieithu peiriant awtomatig a ddefnyddir yw Google Translate.
Mae safleoedd cyfieithu ar-lein eraill ar gael. Dyma rai o'r mwyaf poblogaidd:
Gallwch ddysgu mwy am y safleoedd cyfieithu hyn drwy ddilyn y dolenni.
Diolch am gymryd rhan.