Clonc Cwpan y Byd
Sgwrsio byd-eang mewn 11 iaith: Albaneg Arabeg Tsieinëeg Saesneg Perseg Portwgaleg Rwsieg Sbaeneg Swahili Fietnameg Cymraeg

Mae pêl-droed yn un o'r ieithoedd gwirioneddol fyd-eang. Ble bynnag yr ewch, mae cefnogwyr pêl-droed wrth eu bodd yn siarad am eu timau a'r chwaraewyr rhyngwladol mawr.
Fel rhan o sylw'r BBC i Gwpan y Byd, ry'n ni am ddod â chefnogwyr at ei gilydd waeth pa iaith maent yn ei siarad. Mae Clonc Cwpan y Byd yn gyfle i fynd â hyn un cam ymhellach, i gael sgwrs fyd-eang, amlieithog.
Mae rhai o'n prif wasanaethau iaith yn dod at ei gilydd i gynnal sgwrs yn seiliedig ar gemau agoriadol a therfynol Cwpan y Byd.
Bydd y digwyddiad yn defnyddio cyfieithu peiriant awtomatig. Bydd sylwadau a gyhoeddir mewn un iaith yn ymddangos yn y 10 arall.
Ni fydd ein pwyslais ar gywirdeb y cyfieithu, ond yn hytrach ar ddod â chefnogwyr pêl-droed o bob rhan o'r byd at ei gilydd i drafod, beth bynnag fo'u mamiaith.