25 mlynedd wedi llaw Joe Jordan
12 Hydref 2003
Mae 12 Hydref 1977 yn ddyddiad sydd yn achosi poen a loes i gefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru.
Mae 25 mlynedd wedi mynd heibio ers i Gymru wynebu'r Alban yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd yr Ariannin '78 ond mae llaw Joe Jordan yn dal i fynd o dan groen cefnogwyr Cymru.
Roedd Cymru wedi dod allan o'r het mewn grwp â Tsiecoslofacia a'r Alban, gyda enillwyr y grwp yn mynd drwodd i Gwpan y Byd 1978 yn yr Ariannin.
Wedi trechu Tsiecoslofacia 3-0 yn Wrecsam, byddai buddugoliaeth i Gymru dros yr Alban yn golygu cam mawr i'r Ariannin i dîm Mike Smith gan fod yr Alban eisoes wedi colli 2-0 yn Prague.
Nid oedd pethau'n argoeli'n dda i Gymru gan iddynt orfod chwarae'r gêm nifer o filltiroedd o Gaerdydd yn dilyn trwbl ymysg y dorf yn y gêm rhwng Cymru ac Yugoslafia ym 1976.
Penderfynodd y Gymdeithas Bêl-droed chwarae'r gêm yn Anfield, Lerpwl yn hytrach na Wrecsam er mwyn cael torf uwch.
Wedi gêm glos iawn daeth y foment dyngedfennol wedi 78 munud wrth i'r dyfarnwr o Ffrainc, Robert Wurtz chwibanu am gic o'r smotyn.
Roedd Joe Jordan a David Jones wedi neidio yn y cwrt cosbi i geisio cyrraedd tafliad Asa Hartford ac er bo'r ailchwarae ar y teledu yn dangos yn glir mai Jordan oedd wedi llawio'r bêl penderfynodd y Ffrancwr mai Jones oedd wedi llawio.
Llwyddodd Don Masson i rwydo o'r smotyn a chyda Kenny Dalglish yn ychwanegu ail gôl deng munud yn ddiweddarach roedd breuddwyd Cymru ar ben.
25 mlynedd yn ddiweddarach mae BBC Cymru'r Byd wedi bod yn hel atgofion â rhai oedd yno ar y noson.
Y Ffan
Roedd y cynhyrchydd rhaglenni teledu pêl-droed Dylan Llewelyn yn 11-mlwydd-oed ac wedi teithio i Lerpwl â'i dad.
"Roeddwn wedi bod i Barc Ninnian â'n nhad i weld y gêm â Yugoslafia a hefyd wedi bod yn y Cae Ras i weld Lloegr yn curo Cymru 2-1," meddai.
"Wedi cyrraedd Lerpwl roeddwn wedi'n synnu âr holl Albanwyr yn y ddinas - a chyda phob un yn yfed allan o botel gwrw roed yn sioc mawr i hogyn 11-mlwydd oed o Ben Llyn."
Roedd ein tocynnau ni ar gyfer rhes flaen Eisteddle Cemlyn Road a roeddwn wedi'n siomi bod nifer fawr o Albanwyr o'n cwmpas yma hefyd, yn wir, wrth edrych draw tua'r Kop dim ond cornel fechan iawn yn y top oedd i'w weld yn goch - roedd gweddill y Kop yn las."
"Rwy'n cofio bod yr Albanwyr yn eithaf bygythiol tra bo Cymru'n ymosod - llwyddodd Alan Rough i arbed yn wych o ergyd gan John Toshack."
"Ond, unwaith bo'r Alban wedi mynd ar y blaen roedd yr Albanwyr eisiau ysgwyd llaw a chofleidio'r Cymry."
Credai Dylan nad oedd y rhan helaeth o'r cefnogwyr yn ymwybodol o lawiad Jordan ar y noson.
"Roedd y digwyddiad yn rhy bell i ni allu weld o'r eisteddle," meddai.
"Ond y bore wedyn roedd pawb ar iard yr ysgol oedd wedi gweld yr ailchwarae ar y teledu yn lloerig."
Mae cefnogwyr Cymru wedi cael enw am fod yn synicaidd ac mae Dylan yn credu fod rheswm da am hynny.
"Or tair gêm ryngwladol cyntaf i mi fynychu roedd Ruddi Glockner a Robert Wurts yn ddyfarnwyr - mae'n synod fy mod cystal!"
Y Chwaraewr
Dai Davies oedd golwr Cymru at y noson, ac mae Dai yn cofio'r holl edrych ymlaen yn yr ystafell newid.
"Roedd pawb yng ngharfan Cymru yn sôn am yr Ariannin a Phatagonia," meddai Davies.
"Roedd RobThomas a Terry Yorath yn hoff iawn o rasys ceffylau ac wedi cael gwahoddiad i gyfarfod pobl ceffylau or Ariannin - roedd cryn edrych ymlaen."
Roedd y tîm yn aros yn Llangollen ac wrth yrru draw i Lerpwl cafwyd sioc o weld cymaint o Albanwyr.
"Wrth ddod allan i'r maes cawsom sioc aruthrol i weld glas ymhobman," meddai.
"Roeddem yn gwybod bod nifer fawr wedi dod i lawr o'r Alban ond roeddem yn disgwyl gweld mwy o goch yn y cae."
Mae Davies yn cofio llawiad Jordan fel petai'n ddoe.
"Roedd yn amlwg mai Jordan oedd wedi llawio'r bêl," meddai.
"Roedd Jordan yn gwisgo llewys hir tra bo Jones â llewys byr."
"Rhedais yn syth at y dyfarnwr gan godi naw bys i ddweud mai Jordan - rhif 9 - oedd wedi llawio'r bêl."
"Wedi'r gêm roedd pawb yn hynod o siomedig. Roedd dwy flynedd o waith caled wedi Don ei wastraffu diolch i un camgymeriad gan ddyfarnwr."
Manylion y gêm:
CYMRU 0-2 YR ALBAN