Help / Cymorth

Archifau Gorffennaf 2012

Yr ifanc a dybia...

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Iau, 26 Gorffennaf 2012

Sylwadau (1)

Roedd diwrnod penodi William Hague yn Ysgrifennydd Cymru yn un poenus i mi. Dim bod gen i unrhyw beth yn erbyn William. Mae'n gwmni da a gallwn ddadlau ynghylch ei gryfderau a gwendidau gwleidyddol. Mae 'na un ffaith na ellir dadlau yn ei chylch. Mae'n iau na fi ac oherwydd hynny roedd ei benodiad fel ergyd i'n stumog. Ysgrifennydd Gwladol yn iau na fi? Scersli belif.

Nawr, dydw i ddim wedi cyrraedd sefyllfa lle mae barnwyr yn edrych yn ifanc ond rwyf wedi bod yn y gêm yma am fwy o amser na'r rhan fwyaf o'r glaslanciau o gwmpas bwrdd cabinet Downing Street. Gyda'r glymblaid mewn twll felly rwyf am gyngor gair o gyngor. Nid fy mod i'n disgwyl i unrhyw un wrando!

Rwyf wedi dod i'r casgliad mai un o'r camgymeriadau mwyaf y gall gwleidydd ei wneud yw meddwl bod addewidion yn bwysig a bod eu cadw nhw yn bwysicach na dim byd arall. Dydw i ddim yn dweud nad oes 'na bris am dorri addewid. Mae 'na - ond mae'r pris hwnnw llawer yn llai na phris glynu'n benstiff at bolisi nad yw'n gweithio yn y gred bod yr etholwyr yn edmygu "cryfder" felly mewn gwleidydd.

Ydy Llywodraeth David Cameron mewn sefyllfa felly o safbwynt yr economi? Oes angen "plan b"? Mae'n bosib ddadlau y naill ffordd neu'r llall. Mae 'na ddigon o bobol syn fodlon gwneud hynny ond mae'n ymddangos i mi mai un person mewn gwirionedd sy'n gorfod penderfynu ac nid y Prif Weinidog, ei ddirprwy na'r Canghellor yw hwnnw.

Oes angen dweud mai Vince Cable yw'r ffigwr allweddol yn hyn oll? Dyw'r Ysgrifennydd Busnes ddim mor boblogaidd ac oedd e yn y dyddiau cyn etholiad 2010 pan oedd y cyfryngau'n ei drïn fel rhyw fath o athrylith economaidd. Serch hynny mae'n parhau'n ffigwr adnabyddus ac un mae'r etholwyr ar y cyfan yn ei hoffi ac yn ei drystio. Pe bai'n dewis ymddiswyddo o'r Llywodraeth a phellhau ei hun o'r moddion economaidd byr iawn fyddai oed y glymblaid yn fy marn i.

Fe symudodd Vince yn gyflym iawn ddoe i fynnu nad oedd ei gyfaill Arglwydd Oakeshott yn siarad ar ei ran wrth alw am newid Canghellor. Rhaid i ni dderbyn ei ddidwylledd. Ar y llaw arall mae'n anodd credu nad yw hen ben y Democratiaid Rhyddfrydol yn sylweddoli cryfder ei sefyllfa a maint ei gyfrifoldeb.

Cwrteisi a'r Gymraeg

Vaughan Roderick | 10:39, Dydd Gwener, 20 Gorffennaf 2012

Sylwadau (6)

Mae'n annhebyg eich bod wedi llwyddo i osgoi'r ffaith bod Cymdeithas yr Iaith yn dathlu ei phen-blwydd yn hanner cant eleni. Mae hen ddigon wedi ei hysgrifennu ynghylch hynny ond efallai mai'r hyn sy'n nodweddu'r Gymdeithas fwyaf yw ei gwydnwch. Tra bod mudiadau iaith eraill wedi ymddangos ac yna diflannu ar hyd y blynyddoedd erys y Gymdeithas fel rhyw fath o graig yr oesoedd gydag Adferwyr, Cymunedwyr, Cyfeillion ac eraill yn mynd a dod o'i chwmpas.

Un o'r mudiadau iaith mwyaf byrhoedlog oedd un o'r enw "Y Cymry Rhydd". Os ydw i'n cofio'n iawn, Robat Gruffudd, y Lolfa wnaeth sefydlu'r grŵp ac roedd y syniad yn un digon syml. Fe fyddai'r aelodau yn gwrthod siarad Saesneg o dan unrhyw amgylchiadau. Am wn i ein cwrteisi naturiol fel Cymry Cymraeg oedd yn gyfrifol am fethiant y mudiad.

Mae'n rhan o fytholeg Lloegr bod y Cymry yn troi at y Gymraeg yn unswydd er mwyn siarad am Saeson y tu ôl i'w cefnau. Yn fy mhrofiad y gwrthwyneb sy'n wir. Mae'r Cymry Cymraeg yn tueddu bod yn ddigon parod, yn rhy barod efallai, i droi at y Saesneg i wella'r gwmnïaeth.

Roeddwn yn meddwl am hyn mewn cyfarfod rhai wythnosau yn ôl - y fath o gyfarfod anffurfiol lle nad yw cyfieithu yn cael ei ddarparu. Roedd y mwyafrif yn yr ystafell yn Gymry Cymraeg rhugl a fyddai'n siarad yr iaith yn naturiol a'i gilydd. Roedd eraill yn deall rhyw faint o Gymraeg a'r rheiny a fyddai'n cael eu hystyried yn ddi-Gymraeg yn bobol oedd wedi eu haddysgu yng Nghymru ac felly wedi astudio'r Gymraeg o'u diwrnod cyntaf yn yr ysgol fach hyd at oedran TGAU.

Oes angen dweud beth oedd iaith y cyfarfod - ac eithrio ambell i "fore da" a "diolch yn fawr"?

Dau gwestiwn sy gen i yn fan hyn.

Yn gyntaf pwy oedd yn bod yn gwrtais a phwy oedd yn bod yn anghwrtais yn yr achos hwn?

Yn ail, os ydw i'n gallu straffaglu i siarad Ffrangeg ddegawdau ar ôl mi ei hastudio am dair blynedd yn yr Ysgol Uwchradd - beth ddiawl sy'n mynd ymlaen mewn gwersi Cymraeg yn ein hysgolion Saesneg?

Yr wythnos hon cyhoeddodd y Llywodraeth ei bod yn sefydlu gweithgor er mwyn ceisio gwella safon dysgu Cymraeg fel ail iaith. Hen bryd hefyd. Efallai y caiff e ryw effaith.

Yn sicr mae'n rhaid gwneud rhywbeth.

Codi Stêm

Vaughan Roderick | 09:51, Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2012

Sylwadau (5)

Pan oeddwn i'n grwt bu'r teulu yn byw am gyfnod ym mhentref Efail Isaf rhwng Pontypridd a Llantrisant. Digon bychan oedd Efail Isaf ar y pryd - ond roedd gan y lle siop, tafarn, capel oedd bron ar ei din ac adfail o stesion oedd yn gyrchfan chwarae i blant y pentref. Y pryd hwnnw, yn ôl yn y chwedegau, roedd ambell i drên glo yn dal i redeg ond roedd gwasanaethau i deithwyr wedi hen fynd.

Ar brif lein David Davies o Bontypridd i'r Barri yr oedd gorsaf Efail Isaf. Rhyw gan llath yn bellach lawr Heol Dowlais roedd 'na orsaf arall sef un Pentre'r Eglwys. Ar y "Taff Vale and Llantrisant Junction Railway" yr oedd honno a dydw i ddim yn cofio trenau arni.

Hanner canrif yn ddiweddarach mae siop a thafarn Efail Isaf wedi goroesi ac mae'r capel yn un o eglwysi Cymraeg mwyaf llewyrchus y de ddwyrain. Mae'r rheswm am lewyrch y lle'n amlwg. O gwmpas Efail Isaf a'r pentrefi cyfagos codwyd stadau enfawr o dai - yn bennaf ar gyfer pobol sy'n gweithio yng Nghaerdydd ond yn methu fforddio neu'n dewis peidio byw yn y ddinas ei hun.

Yr hyn yw'r ardal mewn gwirionedd yw'n hyn mae'r Americanwyr yn galw'n "exurb" sef maestref nad yw'n rhan ddaearyddol o'r ddinas y mae'n gwasanaethu. Does dim gair Cymraeg am "exurb" felly rwym am fathu un! Fe wnaiff mastref y tro yn iawn!

Wrth reswm fe fyddai cysylltiad rheilffordd rhwng mastrefi fel Efail Isaf a Chaerdydd yn gwneud byd o les ond yn yr achos yma mae llwybrau'r ddwy lein wedi hen ddiflannu.

Na phoener. Sôn am hen faes glo'r de ydw i yn fan hyn - ardal oedd ar un adeg a mwy o reilffyrdd i bob milltir sgwâr nac unrhyw le arall yn y byd. O ganlyniad mae 'na lein arall yn bodoli a fyddai'n ddigon cyfleus i'r masdrefi rhwng Pontypridd a Llantrisant sef lein Beddau. Fe gadwodd glofa a gwaith golosg Cwm Coed Elai i fynd yn ddigon hir i sicrhau bod hi dal yno - er bod ei chledrau'n araf rydi. Ar ôl i'r rhwydwaith presennol gael ei thrydaneiddio lein Beddau sydd ar frig rhestr siopa y rhan fwyaf o arbenigwyr trafnidiaeth ac mae ei llwybr yn cael ei diogelu'n ofalus.

Dyw lein Beddau ddim yn unigryw. Ar ôl i fwyell Beeching ddisgyn dim ond pum lein leol oedd yn agored i deithwyr yn y de ddwyrain sef y rheiny i Dreherbert, Merthyr, Rhymni, Y Barri, Penarth a Coryton. Fe oroesodd eraill er mwyn cludo glo ac yn raddol bach, o'r wythdegau ymlaen, ail-gyflwynwyd trenau i deithwyr. Roedd leiniau Aberdâr, Maesteg, Bro Morgannwg, Glyn Ebwy a 'Cityline' Caerdydd i gyd wedi eu cau i deithwyr ar un adeg.

Coroni ymdrech degawdau mae'r penderfyniad i drydaneiddio'r rhwydwaith felly ond dim ond y cychwyn yw hynny.

Os oes 'na un person sy'n haeddu'r clod am benderfyniad ddoe Mark Barry yw hwnnw. Yn gynnar yn 2011 cyhoeddodd Mark gynllun o'r enw "A Metro for Wales Capital City Region". Sefydliad Materion Cymru a Phartneriaeth Busnes Caerdydd oedd wedi comisiynu'r adroddiad ac roedd fel manna o'r nefoedd i wleidyddion y bae.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cynllun hynod uchelgeisiol ond cwbl realistig i ddefnyddio trenau a lonydd bysiau i glymu Caerdydd a'r cymoedd yn un uned economaidd gref. Mae maint y weledigaeth a manylder y cynllun yn rhyfeddod.

Dydw i ddim yn cofio unrhyw adroddiad arall yn cael croeso mor unfryd a brwdfrydig a'r un y derbyniodd un Mark Barry. Y gair y defnyddir yn fwyaf aml i'w ddisgrifio yw 'trawsnewidiol'.

Mewn cyfnod o ddeunaw mis llwyddodd i droi'r breuddwyd gwrach o drenau trydan yn y cymoedd yn gynllun ac iddo amserlen bendant. Am unwaith dyw "trawsnewidiol" ddim yn gor-ddweud a mawr yw dyled y gwleidyddion i awdur yr adroddiad a'r cyrff wnaeth ei gomisiynu.

Haf Hirfelyn Gwresog

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 11 Gorffennaf 2012

Sylwadau (0)

Mae dyddiau'r cŵn yn ddyddiau peryg i lywodraethau am ryw reswm. Gofynnwch i David Cameron. Nid trafod problemau clymblaid San Steffan yw fy mwriad yn fan hyn - ond mae'n anodd gweld sut ar y ddaear y gall y llywodraeth fynd a'r maen i'r mur ynghylch diwygio Tŷ'r Arglwyddi heb ildio refferendwm. Fe fydd angen hynny er mwyn sicrhau cefnogaeth y blaid Llafur - ac ar ôl llosgi eu bysedd unwaith go brin fod hynny'n apelio at ochr felen y glymblaid.

Yma yn y Bae, y Gweinidog Iechyd sydd dan y lach yn sgil y ffrwgwd ynghylch y sgyrsiau rhwng Marcus Longley a gweision sifil wrth iddo baratoi adroddiad ynghylch dyfodol y gwasanaeth iechyd - adroddiad y mae Lesley Griffiths yn mynnu sy'n gwbwl annibynnol.

Mae 'na hen ddigon o ddadansoddi wedi bod ynghylch manylion y ffrae yn barod. Blog Betsan yw'r lle i fynd os am wybod mwy. Yr hyn sy'n ddiddorol i mi yw bod y tair gwrthblaid - am y tro cyntaf yn y Cynulliad hwn wedi cydlynu eu hymosodiadau ar y Llywodraeth.

Dim ond rhyw wythnos sy 'na ers i mi ysgrifennu ynghylch eu methiant i wneud hynny. Nid fy ngeiriau sy'n gyfrifol am y newid. Beth felly sydd wedi darbwyllo Andrew RT Davies a Leanne Wood i gydweithio am unwaith?

Wel mae'n debyg bod ychydig o "shuttle diplomacy" gan Kirsty Williams wedi chwarae rhan yn y peth. Rwy'n deall mai yn ei swyddfa hi y cynhaliwyd y cyfarfod allweddol rhwng y tri arweinydd.

Yn achos Plaid Cymru mae 'na ddau reswm posib arall allai esbonio'r parodrwydd i weithio gyda'r gleision am unwaith.

Yn gyntaf mae'r blaid wedi bod ym mlaen y gad yn y protestiadau yn erbyn newidiadau posib i wasanaethau yn ysbytai Bronglais a'r Tywysog Phillip. Gallai adroddiad Marcus Longley gael ei ddefnyddio i gyfiawnhau'r newidiadau hynny. Yn achos Llanelli mae hynny eisoes wedi digwydd.

Does a wnelo'r rheswm arall ddim byd ac iechyd. Wythnos ddiwethaf fe ymosododd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Alun Davies yn chwyrn ar y ffordd y gwnaeth y Gweinidog Amaeth yn y Llywodraeth ddiwethaf gyflwyno cynllun 'Glastir'. Elin Jones oedd y gweinidog hwnnw ac roedd Plaid Cymru'n gandryll ynghylch yr ymosodiad. Fel mae'n digwydd Elin yw Llefarydd Iechyd Plaid Cymru.

Oes 'na gysylltiad rhwng y ddwy stori? Go brin - ac eithrio mewn un ystyr. Mae unrhyw agosatrwydd rhwng Plaid Cymru a Llafur oedd yn parhau ers dyddiau 'Cymru'n Un' wedi diflannu.

Llythyr i'r Prif Weinidog

Vaughan Roderick | 10:06, Dydd Iau, 5 Gorffennaf 2012

Sylwadau (0)

Annwyl Carwyn,

Ro'n i'n cered mewn i'r Senedd ddo a dath un o hen stejyrs dy blaid lan atai. Ti'n nabod y teip - y rhai sy'n rhannu pamfflets a throi lan i bopeth ma'r blaid yn neud ond sy ddim moen sefyll etholiad na bod yn ffenest y siop. Ta beth, ofynnes iddi beth odd hi'n neud 'ma. Dod mewn i wylio hon o'r galeri odd hi.















Get Adobe Flash player

Erfyn gweld Mark Drakeford yn "atgoffa Carwyn bod rai o ni wedi martsio i Aldermaston a Greenham" odd yr aelod "smo fi eriod wedi gweld Mark mor grac yngylch unhyw beth" Cafodd hi ddim o'i siomi.

Wetes i ddo bod y pleidie eraill wedi methu glanio clatsiad arnot ti ers yr etholiad so shwt ar y ddaear gwnest ti lwyddo i balu cyment o dwll i dy hun? O't ti wedi anghofio shwd ma lot o bobol Llafur yn timlo am y bisnes niwcliar 'ma?

Wi'n gwypod taw ceisio weindo Leanne lan o't ti ond dylet ti gofio beth wedws Leighton ambwyti hi.

"This doesn't mean we should be complacent. Leanne's success does demonstrate a different character to Plaid Cymru. However, the impact may be experienced more in the challenge to recruit activists than in electoral success."

Shwd ti'n meddwl 'ma'r bisnes Trident 'ma'n ware 'da nw - y crits a'r crotesau y'ch chi'n ceisio denu? Dim yn sbeshal yw'r ateb byswn i'n meddwl.

Ma angen mewddwl gyn gweud weithe - a thra bo ni wrthi dyw 'Sefyll Cornel Cymru - ond dim ond yn y meysydd datganoledig' ddim yn lot o slogan.

Welai ti,

Vaughan

Et tu?

Vaughan Roderick | 15:31, Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2012

Sylwadau (1)

Dyma i chi gwestiwn diddorol. Ydy'r grŵp Ceidwadol yn y Cynlluniad hwn yn llai effeithiol nac oedden nhw yn y Cynulliad diwethaf? Mae 'na rai, gan gynnwys rhai o fewn y blaid a'r grŵp, yn argyhoeddedig eu bod nhw.

Nodwedd fwyaf annisgwyl y pedwerydd Cynulliad yw pa mor hawdd y mae Llafur wedi ei chael hi i lywodraethu o gofio nad oes ganddi fwyafrif yn y siambr. Efallai bod arafwch y Llywodraeth wrth baratoi deddfwriaeth yn rhannol gyfrifol am hynny. Serch hynny fe fyddai gwrthblaid effeithiol wedi gorfodi i'r Llywodraeth ddioddef ambell i ddydd anghysurus a phleidlais anodd erbyn hyn - ond y gwir amdani yw bod Carwyn Jones yn rhydd i fod yn weddol ddi-hid ynghylch yr hyn sy'n ei wynebu yn y Senedd.

Mae'r gwrthgyferbyniad rhwng y ffordd yr oedd y gwrthbleidiau yn cydweithio er mwyn arteithio Llywodraeth Alun Michael yn y Cynulliad cyntaf a'r amser hawdd y mae Carwyn Jones yn cael yn drawiadol iawn. Hyd y gwelaf i does 'na fawr ddim ymdrech wedi bod i ddod o hyd i dir cyffredin rhwng y Ceidwadwyr a'r ddwy wrthblaid arall er mwyn rhoi pwysau ar y Llywodraeth mewn meysydd penodol a does 'na ddim arwydd chwaith o unrhyw fath o strategaeth yn y ffordd y mae'r grŵp yn gweithredu.

Cymerwch ddoe fel enghraifft. Os ydych chi'n defnyddio Twitter mae'n debyg eich bod wedi sylwi ar newyddiadurwyr y Bae yn trydar yn hapus ynghylch stori o'r enw #Bindergate. Stori fach oedd hi ynghylch y cannoedd o bunnau yr oedd y Llywodraeth wedi gwario ar ffeiliau crand i ddal papurau gweinidogion wrth iddyn nhw fynychu'r siambr.

Mae newyddiadurwyr yn dwlu ar straeon felly. Mewn un ystyr maen nhw'n gymharol ddibwys ond maen nhw'n saff o gael eu darllen ac o ddenu ymateb gan ddarllenwyr a gwylwyr.

Gan amlaf os ydy plaid yn dod o hyd i stori o'r fath mae'n ein cyrraedd fel e-bost gan ymchwilydd neu swyddog y wasg. Nid felly yn achos #Bindergate. Pris ffeiliau'r Llywodraeth oedd testun cynhadledd newyddion wythnosol arweinydd yr wrthblaid - yr unig destun. Yn ôl ambell i Dori di-galon nid fel 'na mae rhedeg gwrthblaid effeithiol.

Gyda Phlaid Cymru wedi treulio blwyddyn yn syllu ar ei bogail ei hun, ar adegau mae hi wedi ymddangos mai'r Democratiaid Rhyddfrydol gyda'u pum aelod yw'r fwyaf effeithiol o'r tair gwrthblaid. Mae ambell i Geidwadwr o'r farn na ellir gadael i hynny barhau.

Hirddydd haf yw'r cyfnod cynllwynio traddodiadol mewn gwleidyddiaeth. Er gwaetha'r tywydd gaeafol dyw pethau ddim yn wahanol eleni. Cynyddu mae'r sibrydion yn y Bae a San Steffan ynghylch dyfodol Andrew RT Davies. Does dim symudiadau pendant i'w gweld eto dim ond rhyw deimlad bod rhywbeth yn y gwynt. Fe gawn weld.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.