Help / Cymorth

Archifau Mai 2012

Plant y Fflam

Vaughan Roderick | 09:25, Dydd Gwener, 25 Mai 2012

Sylwadau (3)

Yfory fe fydd fy nai yn cario'r ffagl Olympaidd yn Nhreherbert ac mae dyletswydd deuluol yn golygu y bydd yn rhaid i mi fod yna i gefnogi'r gwalch. Dyma fe ar wefan y gemau a gallwch wrando arno ar Radio Cymru. Gwyn Lein yw ei enw ar safle'r Olympics. Gwynfor Roderick yw e ar Radio Cymru. Mae'n defnyddio'r ddau - mae enwau'n bethau hyblyg yn yr unfed ganrif ar hugain!

Mae ambell un ar wefan Trydar wedi tynnu sylw at yr hyn ddigwyddodd yn ystod ymweliad y ffagl â Chernyw - yn enwedig y ffaith bod yr heddlu wedi rhwystro un o'r rhedwyr rhag arddangos baner Cernyw. Fel mae'n digwydd mae'r rheolau'n gwahardd rhedwyr rhag cario unrhyw beth ac eithrio'r ffagl ei hun. Does wybod a fyddai jac yr undeb neu groes San Siôr wedi cael ei thrin yn yr un modd ond dyna mae'r rheol yn ei ddweud.

Mae rheol arall yn gwahardd baneri 'gwledydd nad ydynt yn cymryd rhan yn y gemau' rhag cael ei chwifio gan bobol sy'n gwylio'r cystadlu. Ydy hynny'n golygu y bydd y Ddraig Goch wedi ei gwahardd - nid yn unig o barc y gemau yn Llundain ond o Stadiwm y Mileniwm?

Mae'r rheol yn aneglur. Fe'i defnyddiwyd i wahardd y Ddraig Goch yn Beijing. Poeni am faneri Tibet a Taiwan oedd y Tsieniaid. Beth fydd agwedd stiwardiaid Llundain, tybed?

O wybod shwd le yw Prydain a pha mor hoff yw ei chenhedloedd o'u baneri mae'n rhyfedd nad yw pwyllgor gemau Llundain, LOCOG, wedi gwneud y sefyllfa'n eglur. Roedd gan faner Catalonia le amlwg yng ngemau Barcelona. Ai dilyn rheolau Beijing yntau rhai Barcelona fydd gemau Llundain?

Croesi'r Sianel

Vaughan Roderick | 16:57, Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Sylwadau (0)

Efallai eich bod wedi diswgyl i mi ysgrifennu rhywbeth am helyntion y Western Mail ddoe. Doedd gen i ddim llawer i ddweud nad oedd eiroes wedi ei ddewud mewn gwrionedd. Rwy'n argymell darllen blog Rob Williams am ddadansoddiad craff o'r sefyllfa.

Mae Rob yn gywir wrth ddweud mai'r stori fawr ynghylch y Wasg Gymreig yw ei declein hirdymor ac y dylid gweld helyntion ddoe yn y cyd-destun hwnnw. Yn sicr mae gwendid cymharol y cyfryngau Cymreig yn broblem ddifrifol yng Nghymru ond heddiw cafwyd ychydig o newyddion da ynghylch un agwedd o'r sefyllfa.

Heddiw cyhoeddodd y rheoleiddiwr darlledu, Ofcom, argymhellion ynghylch dyfodol darlledu cyhoeddus ar Sianel Tri a Sianel 5 a beth bynnag sy'n digwydd mae'n ymddangos y bydd y ddarpariaeth Gymreig ar Sianel Tri yn parhau yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid i gontractiwr Cymreig Sianel Tri, sef cwmni ITV, ddarparu gwasanaeth newyddion Cymreig dyddiol a 90 munud o raglenni Cymreig eraill bob wythnos fel amod o'r drwydded. Yn ei dystiolaeth i Ofcom dywed y cwmni fod y gwasanaeth hwnnw'n gynaliadwy ac fe fyddai'r cwmni yn parhau i'w gyflenwi pe bai'r drwydded darlledu'n cael ei ymestyn.

Mae 'na dipyn o newid wedi bod yng nghân ITV. Roedd tîm rheoli blaenorol y Cwmni yn gadarn o'r farn nad oedd y gwasanaeth Cymreig na gwasanaethau newyddion rhanbarthol Lloegr yn bosib eu cynnal yn yr hir dymor.

O ganlyniad cafodd y cwmni ganiatâd i leihau'r nifer o wahanol rhaglenni newyddion rhanbarthol yn Lloegr o 19 i 11 trwy uno rhanbarthau a'i gilydd. Doedd hynny ddim yn ddigon i ITV ac fe luniodd y Llywodraeth ddiwethaf gynllun i ddarparu newyddion i'r cenhedloedd datganoledig a rhanbarthau Lloegr trwy benodi contractwyr annibynol. Cwmni Ulster Television enillodd y gystadleuaeth i ddarparu newyddion i Gymru.

Daeth tro ar fyd, tro ar lywodraeth, a thro ym marn ITV. Rhoddwyd y gorau i'r cynllun am gontractwyr ac erbyn hyn nid yn unig mae ITV yn fodlon parhau i ddarparu newyddion Cymreig mae'n addo cynyddu'r nifer o raglenni rhanbarthol yn Lloegr yn ol i'r nifer flaenorol.

Pam y newid? Yr esboniad amlwg yw bod rheolwyr newydd ITV yn credu mewn buddsoddi yn hytrach na thorri ar wariant er mwyn gwneud elw. Ceir tystiolaeth o hynny wrth wylio cynnyrch drama ddrudfawr ddiweddar y sianel ond mae 'na reswm arall hefyd.

Mae trwyddedau presennol Sianel Tri yn dirwyn i ben flwyddyn nesaf. Ar hyn o bryd mae cwmni ITV yn dal pob un ohonyn nhw ac eithrio trwyddedau'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Gobaith ITV yw y bydd y trwyddedau'n cael eu hymestyn heb gystadleuaeth. Mae addo darparu gwasnaethau Cymreig a rhanbarthol safonol yn gwneud hynny'n fwy tebygol.

Mater i Jeremy Hunt, neu, o bosib, olynydd iddo, fydd hynny.

Ond os ydy'r trwyddedau'n cael ei hysbysebu, sawl trwydded fydd yna? Argymhelliad Ofcom yw y dylid uno holl ranbarthau Lloegr yn un drwydded genedlaethol gyda thrwyddedau ar wahân i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ynysoedd Môr Udd. Fe fyddai hynny'n golygu diweddu'r cysylltiad hanesyddol rhwng trwyddedau Cymru a Gorllewin Lloegr.

Mae ITV yn gwrthwynebu'r newid gan ddadlau y dylid cadw'r trwyddedau traddodiadol.

Mae 'na ddau reswm am hynny. Yn gyntaf dyw ITV ddim eisiau colli parthau deheuol yr Alban sy'n rhan o drwydded 'Border Television'. Yn ail maen nhw'n synhwyro y byddai 'na lafoerio yn Belfast ac efallai Glasgow o gael cyfle i geisio bachu trwydded Cymru o ddwylo brawd mawr Sianel Tri.

Yn y cyd-destun hwnnw dyma i chi faith fach ddiddorol. Yn ôl ymchwil gan Ofcom mae 69% o drigolion Gogledd Iwerddon yn fodlon ar wasanaeth newyddion UTV. Dim ond 52% o wylwyr Cymru sydd wedi eu bodloni gan wasanaeth newyddion Cymreig ITV.

Mistar Smith

Vaughan Roderick | 14:03, Dydd Mercher, 16 Mai 2012

Sylwadau (0)

Doeddwn i ddim o gwmpas y bore 'ma pan gyrhaeddodd Owen Smith y Senedd am y tro cyntaf fel y Llefarydd Llafur ar Gymru. Roedd pethau eraill gen i wneud ond yn ôl pob son roedd Owen ar ben ei ddigon. Dyw hynny ddim yn syndod. Mae'n ddyn uchelgeisiol ac mae cyrraedd Cabinet yr Wrthblaid ddwy flynedd ar ôl ei ethol i Dy'r Cyffredin yn dipyn o gamp.

Rwyf am drafod yr hyn gallwn ddisgwyl gan y Llefarydd newydd ond cyn mynd ymhellach mae gen i gyfaddefiad i wneud. Fe fu Owen a minnau'n cydweithio ar 'Good Morning Wales' am rai blynyddoedd. Roeddwn i'n westai yn ei briodas ac rwy'n ei ystyried yn gyfaill. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n lliwio fe marn ohono, mwy nac oedd ei gefndir Llafur yn lliwio ei newyddiaduraeth e wrth iddo frathu coesau sawl gwleidydd o'i blaid ei hun, ond gwell yw dweud.

Ta beth am hynny, clywais Owen yn disgrifio'i hun mewn cyfweliad fel 'passionate Welshman'. Rwy'n sicr bod hynny wir ond efallai bod y geiriau hynny'n golygu rhywbeth ychydig yn wahanol iddo fe nac maen nhw'n golygu i chi a fi.

Mae Owen yn fab i'r hanesydd Dai Smith. Roedd yntau, fel y diweddar Gwyn Afl Williams, yn un o'r haneswyr hynny wnaeth herio'r naratif traddodiadol o hanes y Cymry fel cenedl oedd wedi goroesi trwy'r canrifoedd gyda rhyw linyn arian yn ein cysylltu â Macsen, Arthur a Llywelyn fawr. Yn hytrach pwysleisio trychinebau a chwyldroadau'r canrifoedd wnaeth yr haneswyr hyn gan ddadlau bod y genedl heddiw yn ffrwyth y chwyldro diwydiannol a dad-ddiwydiannu'r ganrif ddiwethaf yn hytrach na'i hen hanes.

Mewn un ystyr fersiwn yr haneswyr yw hyn o fodel gwleidyddol y tri rhanbarth. Mae'r fath o Gymru oedd yn cael ei disgrifio yn seiliedig ar Gymreictod "Welsh Wales" y model hwnnw - Cymreictod nad yw'n ddibynnol nac yn llwyr ddeillio o ddiwylliant Cymraeg.

Rwy'n sicr mai cyfeirio am y math yna o Gymreictod y mae Owen wrth alw ei hun yn 'passionate Welshman', er iddo fe'i hun gael ei fagu yn Y Barri, rhan o'r Gymru Brydeinig yn y Gymru dri rhanbarth. Nid bod hynny'n golygu ei fod yn wrthwynebus i;r iaith Gymraeg dim ond mai yn y cymunedau dosbarth gwaith pennaf Saesneg eu hiaith y mae ei galon.

Mae hynny'n dod a fi at rywbeth arall dywedodd Owen yn ei gyfweliad sef bod datganoli yn rhan o DNA'r Blaid Lafur Gymreig. Ond pam felly? Os nad yw Owen yn cyfranogi i ryw fath o genedlaetholdeb rhamantaidd - pam y frwdfrydedd ynghylch y Cynulliad?

Mae'r ateb yn un digon syml, dybiwn i. I Owen, mae'r Cynulliad yw darian i'w bobol yn erbyn Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan ac yn arf i'w codi o dlodi. Os felly, gellir disgwyl i'r Llefarydd newydd fod yn ddiamynedd iawn os ydy e'n credu bod y Llywodraeth Lafur yn y Bae yn llaesu ei dwylo neu yn llusgo'i thraed.

Roedd Carwyn yn wen i gyd wrth groesawi Owen heddiw. Tybed a fydd hynny'n wir ymhen blwyddyn?

Un peth bach arall cyn cloi. Owen yw'r Aelod Seneddol cyntaf o Gymru ers Neil Kinnock y gallaf ddychmygu yn arwain y Blaid Lafur ar lefel Brydeinig. Mae croeso i chwerthin ar ben yr honiad hwnnw - ond fe'i gwnâi'ch atgoffa o'i fodolaeth hyd syrffed os ydy Aelod Pontypridd yn cyrraedd brig ei blaid!

Croen y Ddafad Felen

Vaughan Roderick | 12:27, Dydd Mawrth, 15 Mai 2012

Sylwadau (4)

Mae Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn gallu bod yn un difyr i wylio - ond nid pob tro am y rhesymau cywir! Mae'r pwyllgor yn gorfod ystyried unrhyw ddeiseb ac arni fwy na deg o enwau - trothwy isel sy'n golygu bod bron unrhyw un yn gallu ei chyrraedd.

Heddiw roedd y Pwyllgor yn trafod deisebau ynghylch Gwarchodfa Natur Penrhos, Caergybi, ffordd osgoi Llandeilo, trafnidiaeth gymunedol ac un o'r enw "Y Celfyddydau, Amaethyddiaeth a Dafad y Cynulliad". Yr olaf wnaeth ddenu sylw newyddiadurwyr er bod arni llai nac ugain o lofnodion. Dyma mae'n ei dweud.

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud datganiad yn cefnogi byd amaeth Cymru drwy gomisiynu a chodi cerflun parhaol o ddafad yn y Senedd.

Cadw wyneb syth ac ysgrifennu at y Llywydd i ofyn ei barn wnaeth aelodau pwyllgor. Dewis gofyn i wleidyddion gwnes i. Roedd Andrew RT Davies yn reit gefnogol i'r syniad ar yr amod nad oedd yn arian cyhoeddus yn cael ei wario. Roedd Kirsty Williams yn bryderus ar y llaw arall na fyddai'n bosib sicrhau cytundeb amaethwyr ynghylch pa frid o ddafad y dylid ei bortreadu.

Yn bersonol dydw i ddim yn meddwl bod y syniad yn un gwael. Mae mae 'na ddau gofeb yn ymwneud a'r diwydiant glo yng nghyffinau'r Senedd - pam peidio cael un yn dyrchafu amethyddiaeth? Gallaf yn hawdd ddychmugu rhyw Alun Mabon neu Iago Prydderch o ffigwr yn sefyll ar stepiau'r senedd yn gwylio ei braidd!

Roeddwn i'n son ynghylch hyn wrth foi eithaf crand sy'n gweithio i Dorïaid y Cynulliad y bore 'ma.

"Mae Gwlad Groeg yn cwympo mas o'r Eurozone ac mi wyt ti'n mwydro ynghylch cerflun o ddafad" oedd ei ymateb yntau.

Rwy'n sefyll fy nhir. Wedi'r cyfan gallai Aelodau'r Cynulliad wneud rhywbeth ynghylch y cerflun. Does 'na ddiawl o ddim y maen nhw'n gallu gwneud ynghylch yr Euro!

Myfi'r Pechadur Pennaf

Vaughan Roderick | 13:25, Dydd Iau, 10 Mai 2012

Sylwadau (2)

O bryd i gilydd mae gwleidyddion fel pawb arall yn pechu. Weithiau mae eu pechodau'n denu sylw'r wasg, weithiau ddim. Pe bawn i'n sgwennu rhywbeth am bob camwedd sy'n cyrraedd fy nghlustiau fe fyddwn i'n greadur prysur iawn ond yn greadur eithaf trist hefyd.

Mae ble yn union mae tynnu'r llinell rhwng beth sy'n haeddu cael eu cyhoeddi a beth sydd ddim yn amrywio o un ystafell newyddion i'r llall ac mae'r BBC yn fwy ceidwadol nac eraill wrth dynnu sylw at ffaeleddau unigol.

Roedd penderfynu ynghylch noson fawr Keith Davies yn ddigon hawdd. Nid y goryfed na'r 'fenyw anhysbys' oedd yn cyfiawnhau cyhoeddi ond y ffaith bod y gwesty wedi gwneud cwyn swyddogol a bod pwyllgor safonau'r Cynulliad wedi penderfynu argymell ceryddu aelod Llanelli.

Mae achosion eraill yn fwy amwys. Cymerwch dwy esiampl.

Rhyw wythnos cyn yr etholiadau lleol derbyniodd nifer o newyddiadurwyr lythyrau dienw yn cynnwys 'screenshot' o dudalen Facebook ymgeisydd yn yr etholiadau. Roedd y dudalen yn cynnwys sylwadau oedd yn ymateb yn amrwd iawn i'r ffaith bod trên yr ymgeisydd yn hwyr ar ôl i rywun ladd ei hun trwy neidio ar y traciau.

Heb os, roedd y sylwadau'n annymunol ac yn debyg o beri loes i unrhyw un oedd wedi wynebu'r artaith o golli anwylyn trwy hunanladdiad ond fe'i cyhoeddwyd ar dudalen bersonol ac roedd cyfeillion yr ymgeisydd wedi ei geryddu am ei sylwadau ar y pryd.

Mewn achos arall cafwyd gwybodaeth am ymgeisydd ifanc oedd wedi gwneud sylw ar Facebook i'r perwyl ei fod yn dymuno lladd Justin Bieber. Yn yr achos hwnnw collodd yr ymgeisydd gefnogaeth swyddogol ei blaid er ei bod hi'n rhy hwyr i dynnu ei enw oddi ar y papurau pleidleisio.

Ymgeiswyr Llafur oedd y ddau enghraifft uchod fel mae'n digwydd - ac efallai bod yna elfen o 'dalu'r pwyth yn ol' wedi chwarae rhan yn y ddwy stori ar ôl i Lafur gyflwyno llond crochan o gawl eil-dwym ynghylch ymgeiswyr Ceidwadol yn gynharach yn yr ymgyrch.

Yn sicr mae ambell i hen ben yn y blaid Lafur yn credu bod Peter Hain wedi gofyn am drwbwl trwy gyhoeddi ei 'list of shame'. Mae'n ddigon posib na fyddai papurau fel y 'Western Mail' wedi cyhoeddi'r ddwy stori uchod pe na baent wedi rhoi sylw i'r rhestr wreiddiol. Cyhuddiadau gwreiddiol Mr Hain oedd y cyfiawnhad dros gyhoeddi'r straeon ynghylch y ddau ymgeisydd Llafur.

Fel mae'n digwydd fe wnaethon ni benderfynu anwybyddu rhestr Peter Hain a'r ddwy stori arall hefyd. Nid ein bod ni o reidrwydd yn iawn a dydw i ddim yn beirniadu newyddiadurwyr wnaeth benderfynu'n wahanol.

Pwynt i'r pleidiau sydd gen i. Os ydych chi'n canfod sylwadau gan un o'ch gwrthwynebwyr sy'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig neu'n enllibus mae perffaith hawl gennych chi i dynnu sylw atyn nhw. Yn wir, efallai bod dyletswydd arnoch chi i wneud hynny.

Ar y llaw arall os ydych chi'n gwneud môr a mynydd o ryw sylw amrwd neu annymunol gan un o'ch gwrthwynebwyr peidiwch synnu os ydy'ch gwrthwynebwyr yn chwilio'n drylwyr am sylwadau tebyg gan eich ymgeiswyr chi.

Fe fyddwn yn trafod yr union bwnc yma ar 'Dau o'r Bae' yfory.

Y Gadair Wag

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Mawrth, 8 Mai 2012

Sylwadau (0)

Dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n credu bod gan newyddiadurwyr unrhyw statws neu hawliau arbennig. Mae'r rôl yn un bwysig ond mater i'r gwleidyddion yw sut maen nhw'n dewis delio neu beidio delio gyda ni. Os ydy gwleidydd yn dewis cadw newyddiadurwyr ar hyd braich mater iddo fe neu hi yw hynny. Yr unig hawl sydd gen i yw'r hawl i dynnu sylw at y ffaith.

O 1999 tan etholiad 2011 roedd Llywodraeth Cymru yn cynnal cynhadledd newyddion wythnosol gydag aelodau'r cabinet, neu'r rhan fwyaf ohonyn nhw, yn cymryd eu tro i wynebu'r wasg. Roedd hynny'n digwydd ar ddydd Mawrth pan oedd y Cynulliad yn cwrdd. Roedd y gwrthbleidiau'n dilyn yr un patrwm.

Ar ôl etholiad y llynedd penderfynnodd y Llwywodraeth newid y drefn honno. Roedd y rhesymau'n ddealladwy ac fe gyflwynwyd y newidiadau ar ôl trafod a'r newyddiadurwyr sy'n gweithio yn Nhŷ Hywel.

Y drefn newydd yw bod y Prif Weinidog yn cymryd cynhadledd newyddion misol a hynny ar gamera ac mae 'na gyfloedd hefyd i gael gwybodaeth gan y Gweinidog Busnes, gweision sifil ac ymgynghorwyr arbennig.

Addawyd hefyd y byddai gweinidogion yn cynnal cynadleddau newyddion i drafod eu cyfrifoldebau penodol o bryd i gilydd. Y cyfan ddywedaf i yw bod 'na goblyn o fwlch rhwng y pryd a'r gilydd - ond, fel dywedais i, os ydy ambell i weinidog yn rhy nerfus neu'n rhy brysur i wynebu'r wasg nid mater i fi yw hynny. Rhyngddyn nhw a'u portffolios!

Mae'r un peth yn wir am arweinydd newydd Plaid Cymru. Anaml iawn y mae Andrew RT Davies neu Kirsty Williams yn colli cynhadledd newyddion wythnosol eu pleidiau. Ers ei hethol dyw Leanne Wood ddim wedi dewis ymddangos unwaith mewn cynhadledd newyddion. Mae perffaith hawl ganddi i beidio - ond mae gen i'r hawl ofyn pam - felly fe wnes i y bore 'ma.

"Pryd fydd Arweinydd Plaid Cymru yn barod i wynebu'r wasg?" oedd y cwestiwn.

"Dydw i ddim yn gwybod." oedd ateb Simon Thomas.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.