Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Saunders, Dafydd, Leanne ac Elin

Vaughan Roderick | 13:00, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2012

Rwy'n teimlo fy mod yn boddi mewn mor o gyn a darpar arweinwyr Plaid Cymru'r wythnos hon! Fe fydd hi'n anodd fy osgoi i - na'r arweinwyr ar y cyfryngau Cymreig nos yfory gyda darlledu dwy raglen yn ymwneud a'r blaid. Maddeuwch i mi am ddefnyddio'r post hwn fel math ar hysbyseb.

Y rhaglen gynaf sydd i'w darlledu ar Radio Cymru am chwech y nos yw un sy'n edrych yn ôl ar ddarlith a draddodwyd bron union hanner canrif yn ôl. 'Tynged yr Iaith' oedd y ddarlith honno wrth gwrs ac mae'r rhaglen yn rhoi cychwyn ar wledd o raglenni i nodi'r hanner canmlwyddiant. Edrych ar y ddarlith a'i chyd-destun mae'r rhaglen yng nghwmni tri wnaeth ei chlywed ar y pryd sef Harri Pritchard Jones, Gareth Miles a John Davies ynghyd a'r hanesydd Hywel Williams.

Mae John yntau'n hanesydd wrth gwrs a Gareth a Harri'n llenorion ond yn fwy pwysig efallai roedd y tri yn rhan o'r bwrlwm wnaeth arwain at y ddarlith ac a ddeilliodd ohoni. John oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith a Gareth oedd y cyntaf o'i rhengoedd i fynnu gwŷs yn Gymraeg gan roi cychwyn ar hanes hir o dor-cyfraith. Mae gan Harri stôr o hanesion ac atgofion o'r cyfnod.

Gwahoddwyd Hywel, nad oedd wedi ei eni yn 1962, ar y rhaglen i roi darlun ychydig yn fwy gwrthrychol o'r ddarlith ond yn wir ef oedd y mwyaf brwd wrth ddadlau o blaid ei phwysigrwydd. Yn ôl Hywel roedd y ddarlith yn foment deallusol o'r pwys mwyaf yn hanes Cymru. Gan fod Hywel wrthi'n sgwennu hanes un gyfrol o'r ynysoedd hyn ar hyn o bryd fe ddylai wybod!

Yr ail raglen sy gen i yw CF99 ar S4C am 9.30. Hon fydd y ddadl gyhoeddus gyntaf rhwng y tri ymgeisydd sy'n weddill ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru. Fe fydd y tri yn cwrdd eto ar ITV ar nos Iau. Fe fydd CF99 yn rhaglen fyw ac fe fydd modd i chi ymateb trwy drydar. Yn y cyfamser os oes gennych awgrymiadau ynghylch pynciau neu gwestiynau i'w codi mae croeso i chi eu hawgrymu trwy adael sylw yn fan hyn.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:27 ar 7 Chwefror 2012, ysgrifennodd HEN GOES:

    Cwestiwn

    Y tro nesa y daw'r Frenhines ar ymweliad a'r Senedd ble fyddwch chi?

  • 2. Am 18:52 ar 7 Chwefror 2012, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Er mwyn i Blaid Cymru dyfu i fod yn blaid fwyaf y Cynulliad, mae'n rhaid idddi ennill seddau, wrth Lafur yn bennaf, yng nghymoedd y de ac yn y gogledd ddwyrain. Ai chi yw'r ymgeisydd gorau i ddenu'r pleidleiswyr hynny?

  • 3. Am 19:35 ar 7 Chwefror 2012, ysgrifennodd Neilyn:

    Cwestiwn gwych HEN GOES!

    Cwestiwn -

    Beth yw'r UN PETH PWYSICAF OLL y byddech chi'n ei WNEUD fel arweinydd newydd y Blaid cyn yr etholiad nesaf i'r Cynulliad?

  • 4. Am 15:20 ar 8 Chwefror 2012, ysgrifennodd Siôn Eurfyl Jones:

    Pa bolisiau a moddion dadlau a chyfathreby fydd fwaf effeithiol yn ein ymgyrch i ddarbwyllo etholwyr trddodiadol llafur fod plaid eu hunain wedi eu bradu yn ddi-gywilydd, ac mae Pladi Cyrmu you'r unig blaid fydd yn medru gwella eu bywydau mewn ffyrdd ymarferol a buan.

  • 5. Am 16:25 ar 8 Chwefror 2012, ysgrifennodd Tecwyn:

    - Ydych chi'n cytuno y dylid cyfreithloni holl gyffuriau? (fel mae Leanne yn awgrymu yn y fidio yma) https://drconker.com/2012/01/30/why-im-supporting-leanne-wood/

    - Shwt 'ma apelio at pleidleiswyr ceidwadol 'c' fach sydd mor allweddol bwysig ym mhrif seddi targed y Blaid - Mon, Aberconwy, Gorllewin Caerfyrddin, Preseli Penfro, Gorllewin Clwyd?

  • 6. Am 22:37 ar 8 Chwefror 2012, ysgrifennodd MRS WINDSOR:

    So, Leanne Wood will be there to meet me when we visit the Senedd. I shall look forward to meeting her ..... or on the other hand we may may find something better to do on that day.

  • 7. Am 10:02 ar 9 Chwefror 2012, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Tecwyn, falle mai dy uchelgais di i Blaid Cymru yw ei gweld yn cadw'r seddi sydd ganddi, ac ennill dwy neu dair arall yn yr ardaloedd 'ceidwadol'. Mae fy uchelgais i i'r Blaid yn golygu ennill 21+ sedd, er mwyn dod yn blaid fwyaf y Cynulliad. I wneud hynny, mae'n rhaid ennnill llu o seddau ym mhob rhan o Gymru, ac mae llawer mwy o seddau i'w hennill mewn ardaloedd lle mai mynd ar ôl bleidlais traddodiadol Llafur sydd angen gwneud.

    Mae'n rhaid bod yn strategol. Rhaid ystyried beth yw'r nod, a sut mae cyrraedd y nod.

  • 8. Am 14:52 ar 9 Chwefror 2012, ysgrifennodd Rhys:

    Iwan - rwy'n derbyn dy bwynt am yr angen i Blaid Cymru ennill cefnogaeth oddi wrth gefnogwyr Llafur er mwyn bod mewn man i ffurfio llywodraeth, ond bydd angen sicrhau cefnogaeth o'r lleoedd mai Tecwyn yn sôn amdanynt hefyd. Fodd bynnag, nid tua'r chwith yw'r unig le y gall hi ymestyn, ond tua'r canol hefyd. Cam-ddeuoliaeth yw'r holl gysyniad o asgellau chwith a dde. Mae'r un peth wedi cael ei drafod yng nghyd-destun y Blaid Lafur (Brydeinig) gyda syniadau Maurice Glasman. Rwy'n cofio Dicw'n dweud mewn darlith mai cenedl geidwadol c-fach yw'r Cymry mewn sawl ffordd sy'n codi'r cwestiwn gall unrhyw blaid anwybyddu hynny os ydynt am ffurfio llywodraeth? (Ac rwy'n nodi hwn fel rhywun sy'n pleidleisio dros ymgeiswyr nid pleidiau ac sy'n ddemocrat-cymdeithasol rhonc.)

  • 9. Am 13:33 ar 10 Chwefror 2012, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    "Cam-ddeuoliaeth yw'r holl gysyniad o asgellau chwith a dde."

    Dwi'n cytuno. Mae pobl yn hoff o wneud allan bod Leanne yn 'asgell chwith'. Ond os edrychwch chi ar ei syniadau economaidd, maen nhw'n deillio o weledigaeth economaidd wreiddiol y Blaid - syniadau DJ a Noelle Davies ac ati. Ac mae rhai wedi nodi bod ei syniadau yn go debyg i'r rhai oedd gan Saunders, oedd yn cael ei ystyried ar yr ochr dde yn y Blaid. Edrych ar y polisiau sy'n bwysig, a gweld ai dyma'r math o bethau fyddai'n gweithio yng nghymunedau Cymru, ac ai dyma'r math o bethau fyddai pobl Cymru yn barod i'w cefnogi.

    A byddwn i'n dweud am beidio â chymryd mai DET yw'r ymgeisydd i helpu i gadw seddau 'diogel' y Blaid. Sedd DET ei hun, iawn. Ond o'm hadnabyddiaeth i o Gaergybi, Penparcau, Cwm Gwendraeth, dyffryn Aman - byddai'n llawer gwell gan gefnogwyr y Blaid fynd i gnocio drysau gyda Leanne yn Arwain na chyda DET yn arwain.

    Mae llawer mwy i'w ennill nag i'w golli o fynd ar ol gefnogwyr traddodiadol Llafur - a hynny ledled Cymru - na bwrw mlaen ag agwedd fel "peidiwch a dweud peth felly neu fe gollwn ni Fôn" a "mae gen i ryw 2 fil o geidwadwyr traddodiadol Cymreig yn fy etholaeth i - mae angen i ni edrych ar eu holau nhw".

    Y status quo yw uchelgais Dafydd El i'r Blaid. Llywodraethu Cymru yw uchelgais Leanne Wood i'r Blaid.

  • 10. Am 20:18 ar 10 Chwefror 2012, ysgrifennodd Siôn Aled:

    Yn syml ddigon, mae'r statws cwo yn cynnig dyfodol statig a Leanne yw'r unig un o'r ymgeiswyr sy'n cynnig y newydd-deb a'r mentergarwch a all symud y Blaid yn ei blaen.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.