Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Emlyn

Vaughan Roderick | 13:18, Dydd Mercher, 22 Chwefror 2012

Mae un arall o ffigyrau gwleidyddol amlwg ail hanner yr ugeinfed ganrif wedi ein gadael.
Bu farw Emlyn Hooson ar ôl bywyd llawn a gweithgar fel aelod o'r llynges, bargyfreithiwr, ffarmwr, Aelod Seneddol ac Arglwydd.

Etholwyd Emlyn Hooson yn aelod Maldwyn yn 1962 yn yr isetholiad a ddilynodd marwolaeth Clem Davies.

Rwyf wedi dadlau o'r blaen ar y blog hwn bod Clem yn ffigwr pwysig ond anghofiedig braidd yn hanes gwleidyddol Prydain. Oni bai am ei wrthwynebiad, penstiff braidd, i glymbleidio a'r Ceidwadwyr mae'n debyg y byddai'r Blaid Ryddfrydol wedi colli eu hannibyniaeth ymhell cyn ei dadeni yng nghyfnod Grimond a Thorpe.

Ond os oedd Clem wedi achub y blaid Brydeinig tasg ei olynydd oedd achub Rhyddfrydiaeth Gymreig.

Er bod y blaid yn Lloegr wedi cychwyn ar y broses hir o fagu grym yn 1962 gyda buddugoliaeth Eric Lubbock yn Orpington roedd cyflwr y blaid Gymreig ar ddechrau'r chwedegau yn drychinebus. Dwy sedd oedd yn weddill gan y blaid ac fe gollwyd un o'r rheiny, Ceredigion / Sir Aberteifi yn 1966.

Am wyth mlynedd hir Emlyn Hooson oedd arweinydd ac 'un dyn bach ar ôl' Rhyddfrydwyr Cymru. Doedd nemor ddim arian a nemor ddim trefniadaeth ac roedd yn well gan yr hynny o aelodau oedd ar ôl rannu atgofion am Lloyd George nac mynd allan i ymgyrchu!

Ymateb Emlyn i'r bygythiad o Lafur ac, ar ôl isetholiad Caerfyrddin, Plaid Cymru oedd lansio 'Plaid Ryddfrydol Cymru' fel plaid annibynnol o fewn y blaid Brydeinig. Roedd ganddi ei strwythurau, ei henw a hyd yn oed ei logo ei hun. Oni bai am y penderfyniad hwnnw mae'n bosib na fyddai'r blaid wedi goroesi'r ddegawd.

Hyd heddiw mae statws Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn wahanol iawn is statws canghennau Cymreig y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Emlyn sy'n gyfrifol am hynny.

Fe gollodd Emlyn ei sedd mewn amgylchiadau braidd yn rhyfedd yn 1979. Yn ôl chwedloniaeth wleidyddol Maldwyn roedd y Rhyddfrydwyr yn poeni mwy am drefnu dathliadau i nodi'r ffaith eu bod wedi dal y sedd am ganrif gyfan nac am ymgyrchu yn y flwyddyn honno.

Beth bynnag oedd y rheswm ar y meinciau cochion y treuliodd Emlyn bron i ddeng mlynedd ar hugain gan chwarae rhan amlwg yng ngweithgaredd y 'blaid Gymreig' answyddogol sy'n un o nodweddion y siambr uchaf.

Trwy hyn oll roedd Emlyn yn ddyn anodd iawn ei ddrwglicio. Roedd e'n fonheddwr yn ystyr gorau'r gair, yn ddyn galluog a chwrtais gydag ymroddiad dwfn i wasanaeth cyhoeddus.

Fe fyddai'n gor-ddweud i honni bod Emlyn yn un o gewri gwleidyddol Cymru ond roedd ei rôl yn hanes ei blaid yn allweddol. Fe gyflawnodd llawer dros bobol Maldwyn a Chymru dros gyfnod o ddegawdau.

Efallai mai fel "gwas da a ffyddlon" i'w blaid, ei ddaliadau a'i gydwybod y mae gweld Emlyn. Dyw hynny ddim yn ddrwg o beth i fod.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.