Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Penblwydd Hapus Annwyl Saunders

Vaughan Roderick | 10:11, Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012

Fe fydd selogion 'Dau o'r Bae' wedi sylwi bod 'na newid personél wedi bod yn ddiweddar. Gyda Bethan Lewis bant yn cael babi mae Elliw Gwawr wedi camu i'r adwy. Dydw i ddim yn golygu unrhyw amarch i Bethan trwy ddweud bod 'na fanteision o gael awdures blog 'Paned a Chacen' fel cyd-gyflwynydd. Os ydw i'n magu bol dros y misoedd nesaf chi'n gwybod pam!

Mae'n sicr bod ambell i gacen wedi ei phobi i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn nawdeg yr wythnos hon. Dydw i ddim yn argyhoeddedig bod pen-blwydd yn nawdeg yn haeddu cymaint o jiwbilî ond fe fyddai'n rhaid bod yn ddyn surbwch iawn i wadu hawl Mistar Urdd i gynnal parti bach.

Dydw i ddim yn sicr p'un ai ydy hanner canmlwyddiant darlledu 'Tynged yr Iaith' yn haeddu cacen chwaith. Rhywsut mae gen i'r teimlad bod Saunders Lewis yn fwy o ddyn bara brith na Victoria sponge! Ta beth am hynny mae Radio Cymru yn paratoi nifer o raglenni ar gyfer yr achlysur gan gynnwys un gen i ynghylch y dyn a chyd-destun ei ddarlith.

Megis cychwyn ar ymchwil ydw i ond mae sawl peth yn fy nharo'n barod. Y peth amlwg cyntaf yw bod y ddarlith yn amlwg wedi ei hanelu at Blaid Cymru ac yn deillio o'r anghytundeb rhwng Saunders a Gwynfor Evans ynghylch cyfeiriad y blaid. Mae'n ymddangos mai galw ar Blaid Cymru i fabwysiadu 'dulliau chwyldro' mae'r ddarlith mewn gwirionedd. Os felly methiant oedd hi.

Mae hi hefyd yn amlwg bod yr amcanion a'r dulliau a fabwysiadwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn ei dyddiau cynnar yn wahanol i'r rhai yr oedd Saunders yn galw amdanynt. Rhyw fath o 'foicot' o'r Saesneg fel iaith swyddogol yn yr ardaloedd Cymraeg oedd syniad Saunders. Tor-cyfraith bwriadol oedd prif dacteg y Gymdeithas ac roedd ei hamcanion yn rhai Cymru gyfan.

Mae hynny'n codi cwestiwn amlwg. Ydy hi'n gywir i ddweud bod 'Tynged yr Iaith' wedi arwain at sefydlu'r Gymdeithas ac mae'r ddarlith honno oedd ei hefengyl yn y dyddiau cynnar? Mae'n bosib dadlau bod pethau'n llawer fwy cymhleth na hynny.

Fel y dywedais i mae lot fwy o ddarllen ac ymchwil o'm mlaen i ond rwy'n synhwyro y gallai 'na fod drafodaeth ddifyr a bywiog i'w chael.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:59 ar 27 Ionawr 2012, ysgrifennodd Siôn:

    Mae'n siwr felly, bydd diddordeb gen ti Vaughan a gweddill darllenwyr y blog, yn narlith Gareth Miles (un o'r ymgyrchwyr cynharaf un) ar Dynged yr Iaith.

    Traddodir 'Rhwng yr Adwaith a'r Chwyldro?' ar ddydd Sadwrn 24 mis Mawrth yn y Llyfrgell Genedlaethol. Trefnir y ddarlith gan Gyfeillion y Llyfrgell Genedlaethol.

    Fis yn gynt, i ddathlu 'Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol' ar 21 Chwefror, bydd yr Athro David Crystal yn y Llyfrgell yn traddodi darlith ar bwnc tebyg: 'Language Life and Death'.

    Tocynnau ar gael o'r siop neu arlein https://www.llgc.org.uk


    ... beth wnawn ni gyda'r amser sbâr 'dwch pan fydd yr iaith wedi ei hachub!

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.